Search Legislation

Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “AGGCC” (“CSSIW”) yw Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (1);

  • ystyr “AGIC” (“HIW”) yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru(2);

  • mae “Atebion Iechyd Cymru” (“Health Solutions Wales”) yn is-adran o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre y mae ei changen gwasanaethau rhagnodi'n darparu gwasanaethau cofnodi data a gwasanaethau prisio ynghylch presgripsiynau a weinyddir yng Nghymru;

  • ystyr “Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG” (“NHS Business Services Authority”) yw Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG a sefydlwyd gan Orchymyn Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHS Business Services Authority) (Sefydlu a Chyfansoddiad) 2005(3);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw un o gynghorau Cymru y cyfeirir ato yn adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970(4) (awdurdodau lleol);

  • mae i “busnes manwerthu fferyllol” yr ystyr a roddir i “retail pharmacy business” gan adran 132 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(5) (cofrestru mangre);

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd drwy Orchymyn o dan adran 11(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(6);

  • ystyr “cartref gofal yng Nghymru” (“Welsh care home”) yw corff sy'n rhedeg sefydliad yng Nghymru sy'n gartref gofal at ddibenion Deddf 2000 yn rhinwedd adran 3 o'r Ddeddf honno (cartrefi gofal);

  • mae “corff cyfrifol” (“responsible body”), onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, i'w ddehongli yn unol â rheoliad 22;

  • mae “corff dynodedig” (“designated body”) i'w ddehongli yn unol â rheoliad 3;

  • ystyr “corff rheoleiddiol” (“regulatory body”) yw corff y cyfeirir ato yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (y Cyngor dros Reoleiddio Proffesiynolion Gofal Iechyd)(7);

  • ystyr “Deddf” 2000 (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000(8);

  • ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd a Safonau Cymunedol) 2003(9);

  • ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 2006(10);

  • ystyr “Deddf GIG (Cymru) 2006 (“NHS (Wales) Act 2006”) yw Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “deddfwriaeth am gamddefnyddio cyffuriau” (“misuse of drugs legislation”) yw Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971(11) ac unrhyw is- ddeddfwriaeth a wneir o dan y Ddeddf honno;

  • ystyr “deintydd cofrestredig” (“registered dentist”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr ddeintyddion a gedwir o dan adran 14 o Ddeddf Deintyddion 1984(12) (cofrestr y deintyddion a'r cofrestrydd);

  • ystyr “fferyllfa gofrestredig” (“registered pharmacy”) yw busnes manwerthu fferyllol yng Nghymru sydd am y tro wedi'i gofnodi yn y gofrestr a gedwir o dan adran 75 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968 (cofrestru mangreoedd);

  • ystyr “fferyllydd cofrestredig” (“registered pharmacist”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr fferyllwyr a gedwir gan Gymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr;

  • ystyr “y gwasanaeth iechyd” (“the health service”) yw'r gwasanaeth iechyd a sefydlwyd yn unol â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1946(13);

  • mae “mangre berthnasol” (“relevant premises”) i'w ddehongli yn unol â rheoliad 20;

  • mae “rhwydwaith gwybodaeth leol” (“local intelligence network”) i'w ddehongli yn unol â rheoliad 18(2);

  • ystyr “swyddog atebol” (“accountable officer”) yw person a enwebwyd neu a benodwyd o dan reoliad 4;

  • ystyr “Ymddiriedolaeth GIG” (“NHS Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd drwy Orchymyn o dan adran 18(1) o Ddeddf GIG (Cymru) 2006;

  • ystyr “Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (“Welsh Ambulance Services NHS Trust”) yw Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru(14);

  • ystyr “ysbyty annibynnol yng Nghymru” (“Welsh independent hospital”) yw corff sy'n rhedeg ysbyty yng Nghymru nad yw'n ysbyty yn y gwasanaeth iechyd (o fewn yr ystyr a roddir yn adran 206(1) o Ddeddf GIG (Cymru) 2006 (dehongli)) ond —

    (a)

    sy'n sefydliad, a'i brif ddiben yw darparu gofal lliniarol neu driniaeth feddygol neu seciatrig ar gyfer salwch neu ar gyfer anhwylder meddwl (hynny yw, salwch meddwl, datblygiad meddwl a ataliwyd neu sy'n anghyflawn, anhwylder seicopathig, neu unrhyw anhwylder neu anabledd meddwl arall); neu

    (b)

    sy'n unrhyw sefydliad arall lle y darperir triniaeth neu nyrsio (neu'r ddau) i bersonau sy'n agored i gael eu cadw'n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(15).

(2Os, yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, bydd yn ofynnol i berson neu gorff sicrhau mater, mae'r gofyniad i'w ddehongli fel gofyniad i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau'r mater hwnnw.

(3Os gwneir cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at drefniadau i ddarparu gwasanaethau, mae'r cyfeiriad i'w ddehongli fel cyfeiriad at drefniadau i ddarparu gwasanaethau sy'n ymwneud, neu a all ymwneud, â rheoli neu ddefnyddio cyffuriau a reolir.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys, deddfiad sydd mewn Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu mewn offeryn sydd wedi'i wneud oddi tano.

(1)

Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (“AGGCC”) yn is-adran weithredol ar wahân o'r Adran Gwasanaethau Cyhoeddus a Pherfformiad yn Llywodraeth Cynulliad Cymru.

(2)

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (“AGIC”) yn is-adran weithredol ar wahân o'r Adran Gwasanaethau Cyhoeddus a Pherfformiad yn Llywodraeth Cynulliad Cymru.

(4)

1970 p.42; diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), adran 195(3), a Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), Atodlen 10, paragraff 7.

(5)

1968 p.67. Mae diwygiadau i adran 132 nad ydynt yn berthnasol i'r diffiniad o “busnes manwerthu fferyllol”.

(10)

2006 p.28.

(11)

1971 p.38.

(12)

1984 p.24.

(13)

1946 p.81. Diddymwyd y Ddeddf hon gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a ddiddymwyd yn ei thro o ran Cymru gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p.42) (“Deddf y GIG (Cymru) 2006”).

(14)

Sefydlwyd gan O.S. 1998/678.

(15)

1983 p.20.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources