- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
25.—(1) Caiff corff cyfrifol ddatgelu i unrhyw gorff cyfrifol arall unrhyw wybodaeth sydd ganddo yn ei feddiant neu dan ei reolaeth y mae o'r farn resymol y dylid ei rhannu â'r corff hwnnw at ddibenion—
(a)canfod achosion lle gall fod angen cymryd camau ynghylch materion sy'n codi o ran rheoli neu ddefnyddio cyffuriau a reolir gan berson perthnasol;
(b)ystyried y prif ddadleuon ynghylch cymryd camau ynglŷn â materion o'r fath;
(c)cymryd camau ynglyn â materion o'r fath.
(2) Os bydd y corff cyfrifol yn dymuno datgelu gwybodaeth o dan y rheoliad hwn—
(a)sy'n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol sy'n ymwneud â chlaf ac yn gallu dynodi pwy ydyw; a
(b)nad oes angen yr wybodaeth gyfrinachol honno at ddibenion adnabod achosion y gall fod angen cymryd camau ynghylch materion sy'n codi o ran rheoli neu ddefnyddio cyffuriau a reolir gan berson perthnasol, neu ar gyfer ystyried neu gymryd camau mewn achos o'r fath,
rhaid i'r corff cyfrifol, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, dynnu o'r wybodaeth yr wybodaeth gyfrinachol sy'n ymwneud â chlaf ac sy'n gallu dynodi pwy ydyw.
(3) O ran y corff cyfrifol—
(a)os nad yw'n gallu, o dan baragraff (2), dynnu ymaith o unrhyw wybodaeth sydd i'w datgelu unrhyw wybodaeth gyfrinachol sy'n ymwneud â chlaf ac yn gallu dynodi pwy ydyw; neu
(b)os yw'n ystyried ei bod yn angenrheidiol datgelu gwybodaeth sy'n cynnwys yr wybodaeth gyfrinachol sy'n ymwneud â chlaf ac yn gallu dynodi pwy ydyw,
rhaid i'r corff cyfrifol, pan fydd yn ymarferol, sicrhau cydsyniad y claf y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef.
(4) Os bydd y corff cyfrifol (neu ei swyddog atebol)-
(a)wedi cychwyn asesiad o fater o bryder neu ymchwiliad iddo o ran rheoli neu ddefnyddio cyffuriau a reolir gan unigolyn perthnasol o dan reoliad 16 (a'r unigolyn hwnnw'n berson perthnasol at ddibenion y Rhan hon); neu
(b)wedi cwblhau asesiad o fater o bryder neu ymchwiliad iddo o dan reoliad 16,
rhaid iddo hysbysu'r personau a'r cyrff a restrir ym mharagraff (5) o gychwyn neu gwblhau'r asesiad neu'r ymchwiliad, yn ôl y digwydd, a darparu manylion priodol ynghylch natur yr asesiad neu'r ymchwiliad.
(5) Dyma'r personau a'r cyrff—
(a)os oes gan y corff cyfrifol swyddog atebol ac nad yw'n ymwybodol o'r camau a gymrwyd, y swyddog atebol hwnnw;
(b)y swyddog atebol a enwebwyd neu a benodwyd yn swyddog atebol ar gyfer unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol y mae'r unigolyn perthnasol yn byw yn ei ardal neu'n darparu gofal iechyd neu wasanaethau ynglyn â gofal iechyd ynddi; ac
(c)unrhyw gorff cyfrifol arall y mae'n ystyried ei bod yn briodol ei hysbysu.
(6) Nid yw'n ofynnol i gorff cyfrifol hysbysu unrhyw berson neu gorff, na darparu unrhyw fanylion, o dan baragraff (4) lle y byddai gwneud hynny'n rhagfarnu neu'n debygol o ragfarnu—
(a)unrhyw ymchwiliad sy'n cael ei gynnal gan y corff cyfrifol, neu gan unrhyw gorff cyfrifol arall o dan unrhyw ddeddfiad; neu
(b)unrhyw achosion sifil neu droseddol.
(7) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn gwneud unrhyw ddatgeliad o wybodaeth yn ofynnol neu'n caniatáu hynny a bod y cyfryw'n cael ei wahardd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad arall.
(8) Wrth benderfynu at ddibenion paragraff (7) a yw datgeliad heb ei wahardd oherwydd ei fod yn ddatgeliad o ddata personol sy'n esempt rhag darpariaethau peidio â datgelu Deddf Diogelu Data 1998 yn rhinwedd adran 35(1) o'r Ddeddf honno (datgeliad sy'n ofynnol gan y gyfraith neu wedi'i wneud mewn cysylltiad ag achosion cyfreithiol etc), mae i'w dybied bod y datgeliad yn ofynnol gan y rheoliad hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: