xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 509 (Cy.45)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) (Diwygio) (Cymru) 2008

Gwnaed

26 Chwefror 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Chwefror 2008

Yn dod i rym

19 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997(1), â'r cyrff sy'n ymddangos iddynt yn rhai priodol a chynrychioliadol o ysgolion sydd o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno yn darparu lleoedd drwy gymorth, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 19 Mawrth 2008.

(2Mae rheoliad 3 yn gymwys o ran Cymru mewn cysylltiad â chwestiwn lleddfu perthnasol.

(3Ym mharagraff (2) uchod, ystyr “cwestiwn lleddfu perthnasol” yw cwestiwn lleddfu o dan Reoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) 1997 ac—

(a)sy'n codi mewn cysylltiad â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007; a

(b)nad yw wedi'i benderfynu ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006

2.  Ar ddiwedd paragraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006(3), mewnosoder “cyhyd ag nad yw'r cwestiwn yn un y cyfeirir ato ym mharagraff (3) rheoliad 1 o Reoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) (Diwygio) (Cymru) 2008”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) 1997

3.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) 1997(4) wedi'u diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle “£1,625” ym mhob man y mae'n ymddangos, rhodder “£1,675”.

(3Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn lle “£12,470”, rhodder “£12,864”.

(4Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhodder y tabl canlynol—

(1) Part of relevant income to which specified percentage applies(2) Only assisted pupil (%)(3) Each of two assisted pupils (%)Each of three assisted pupils (%)
That part (if any) which exceeds £12,698 but does not exceed £13,808.96.755.25
That part (if any) which exceeds £13,808 but does not exceed £14,935.1297
That part (if any) which exceeds £14,935 but does not exceed £17,169.1511.258.75
That part (if any) which exceeds £17,169 but does not exceed £20,616.2115.7512.25
That part (if any) which exceeds £20,616 but does not exceed £25,110.241814
That part (if any) which exceeds £25,1103324.7519.25

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

26 Chwefror 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) 1997 (“Rheoliadau 1997”) .

Mae'r Rheoliadau yn gymwys ynghylch cwestiynau lleddfu sy'n codi mewn cysylltiad â blwyddyn ysgol 2007/08 ac sydd heb eu penderfynu ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym. Mae cwestiwn lleddfu yn gwestiwn sy'n ymwneud â hawl rhiant o dan Reoliadau 1997 i gael lleddfiad ar y ffioedd sy'n daladwy mewn cysylltiad ag addysg plentyn mewn ysgol annibynnol.

Mae'r gostyngiadau sydd i'w gwneud mewn incwm perthnasol rhieni mewn cysylltiad â pherthnasau dibynnol yn unol â rheoliad 10(4) a (6) o Reoliadau 1997 wedi'u cynyddu o £1,625 i £1,675.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio'r prawf moddion ar gyfer lleddfu ar ffioedd: £12,864 yn lle £12,470 yw lefel yr incwm sydd wedi'i phennu i ffioedd gael eu lleddfu'n gyfan gwbl neu'n rhannol arni neu islaw iddi, gyda chodiadau cyfatebol o ran graddau'r lleddfu pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na'r swm hwnnw.

(1)

1997 p. 59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).

(2)

Yr oedd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru: gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a'r cofnod mewn cysylltiad â Deddf Addysg (Ysgolion) 1997 yn Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).