xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
26 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cym
27 Chwefror 2008
Yn dod i rym
19 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997(1), â'r cyrff hynny sy'n ymddangos iddynt hwy yn briodol a chynrychioliadol o ysgolion sydd o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno yn darparu lleoedd drwy gymorth, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 3(1), (3), (4), (5) a (9) o'r Ddeddf honno(2):
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 19 Mawrth 2008.
(2) Mae Rheoliad 3 yn gymwys o ran Cymru mewn cysylltiad â chwestiwn perthnasol.
(3) Ym mharagraff (2) uchod, ystyr “cwestiwn perthnasol” yw cwestiwn o dan Reoliadau Addysg (Mân Dreuliau) 1997(3) ynghylch a oes gan rieni disgybl a gynorthwyir hawl i gael grant gwisg ysgol o dan Ran II, neu grant teithio o dan Ran III, o'r Rheoliadau hynny ac—
(a)sy'n codi mewn cysylltiad â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007; a
(b)sydd heb ei benderfynu ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
2. Ar ddiwedd paragraff (3) rheoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2006(4), mewnosoder “ar yr amod nad yw'r cwestiwn yn un y cyfeirir ato ym mharagraff (3) rheoliad 1 o Reoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2008”.
3.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) (Mân Dreuliau) 1997 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 —
(a)ym mharagraff (2), yn lle “£13,431”, rhodder “£13,861”;
(b)ym mharagraff (3), yn lle is-baragraffau (a) a (b), rhodder—
“(a)£86 pan na fo'r incwm perthnasol yn uwch na £12,864; a
(b)£44 pan fo'r incwm hwnnw'n uwch na £12,864, ond nad yw'n uwch na £13,861.”.
(3) Yn rheoliad 4—
(a)ym mharagraff (3), yn lle “£12,483”, rhodder “£12,877”; a
(b)ym mharagraff (4)—
(i)yn lle “£12,483”, rhodder “£12,877”; a
(ii)yn lle “£12,304”, rhodder “£12,698”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) (Mân Dreuliau) 1997 (“Rheoliadau 1997”).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran cwestiynau perthnasol sy'n codi mewn cysylltiad â blwyddyn ysgol 2007/08 ac sydd heb eu penderfynu ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym. Cwestiwn perthnasol yw cwestiwn sy'n ymwneud â hawl rhiant o dan 1997 Regulations i gael grant mewn cysylltiad â mân dreuliau sy'n gysylltiedig ag addysg plentyn a gynorthwyir mewn ysgol annibynnol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prawf moddion (a ddisgrifir yn rheoliad 2 o 1997 Regulations) ar gyfer penderfynu cymhwysedd i gael grant gwisg ysgol ac yn cynyddu swm y grant sy'n daladwy mewn cysylltiad â gwariant ar ddillad a dynnir yn y flwyddyn ysgol 2007/08. Mae £86 (yn lle £83 fel o'r blaen) yn daladwy pan na fo'r incwm perthnasol yn uwch na £12,864 (yn lle 12,470) ac mae £44 (yn lle £43) yn daladwy pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na'r ffigur hwnnw ond nid yn uwch na £13,861 (yn lle £13,431).
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio hefyd y prawf moddion (a ddisgrifir yn rheoliad 4 o 1997 Regulations) ar gyfer penderfynu cymhwysedd i gael grant teithio ac yn cynyddu swm y grant sy'n daladwy mewn cysylltiad â gwariant teithio ysgol mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2007/08. Pan na fo'r incwm perthnasol yn uwch na £12,877 (yn lle £12,473), bydd unrhyw grant teithio yn swm sy'n hafal i'r gwariant teithio ysgol y mae'n ymwneud ag ef. Pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na'r swm hwnnw, y grant teithio fydd y swm, os bydd un, y bydd y gwariant teithio ysgol y mae'n ymwneud ag ef yn uwch na swm (wedi ei dalgrynnu i lawr i'r lluosrif agosaf o £3) sy'n hafal i un rhan o ddeuddeg o'r rhan honno o'r incwm perthnasol sy'n uwch na £12,698 (yn hytrach na £12,304).
1997 p. 59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).
Yr oedd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru: gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a'r cofnod mewn cysylltiad â Deddf Addysg (Ysgolion) 1997 yn Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 1997/1969. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1585, O.S. 1999/1505, O.S. 2000/1939 (Cy. 137), O.S. 2001/2708 (Cy. 227), O.S. 2002/1880 (Cy. 189), O.S. 2003/1779 (Cy.193), O.S. 2004/1807 (Cy.195) ac O.S. 2005/2837 (Cy. 201).