xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
11.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4) o'r rheoliad hwn a chan eithrio paragraffau (8), (9) a (10) o reoliad 10, canfyddir incwm gweddilliol partner myfyriwr cymwys yn unol â rheoliad 10, gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys.
(2) Os bydd Gweinidogion Cymru'n canfod nad yw'r myfyriwr cymwys a'i bartner fel arfer yn byw gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, ni chymerir i ystyriaeth incwm y partner wrth ganfod incwm yr aelwyd.
(3) Os bydd Gweinidogion Cymru'n canfod bod y myfyriwr cymwys a'i bartner heb fod fel arfer yn byw gyda'i gilydd am ran yn unig o'r flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm gweddilliol y partner drwy gyfeirio at ei incwm gweddilliol o dan baragraff (1) wedi ei rannu â hanner cant a dau a'i luosi â nifer yr wythnosau cyfan yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru'n canfod bod y myfyriwr cymwys a'i bartner fel arfer yn byw gyda'i gilydd.
(4) Os bydd gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un ohonynt.