Dilyniant academaidd4

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu Grant Dysgu'r Cynulliad i fyfyriwr mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2008/2009 neu ran o'r flwyddyn academaidd honno onid oes sail resymol iddynt fod yn fodlon bod y cyfnod o astudio o dan sylw yn golygu dilyniant academaidd i'r myfyriwr o'i gymharu â'r astudiaethau a ddilynodd y myfyriwr mewn blynyddoedd academaidd blaenorol.

2

Caiff Gweinidogion Cymru dalu Grant Dysgu'r Cynulliad i fyfyriwr am flwyddyn academaidd sy'n cael ei hail-wneud os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn ail-wneud blwyddyn academaidd flaenorol na allodd y myfyriwr ei chwblhau am resymau personol cadarn.