- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Rheoliadau 14, 15 a 16
1. Cyn dynodi stryd yn stryd a warchodir o dan adran 61, rhaid i'r awdurdod strydoedd gyhoeddi hysbysiad o'u bwriad i wneud y dynodiad ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.
2. Rhaid i'r hysbysiad bennu cyfnod nad yw'n llai na mis o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad, y caniateir gwneud gwrthwynebiadau o'i fewn.
3. Rhaid i'r awdurdod strydoedd roi copi o'r hysbysiad hwnnw, heb fod yn ddiweddarach na dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad —
(a)i bob ymgymerwr y mae'r awdurdod yn gwybod ei fod yn gweithio yn ei ardal, neu sydd wedi rhoi hysbysiad, naill ai o dan adran 54 neu o dan adran 55 ei fod yn bwriadu gwneud gwaith stryd yn ei ardal;
(b)i bob awdurdod lleol (ac eithrio'r awdurdod strydoedd) lle mae unrhyw stryd y mae'r dynodiad arfaethedig yn ymwneud â hi wedi'i lleoli;
(c)i feddianwyr neu feddianwyr honedig unrhyw dir sy'n gyffiniol â'r stryd;
(ch)i unrhyw awdurdod trafnidiaeth lleol neu grwp awdurdod trafnidiaeth lleol y mae'r stryd wedi'i lleoli yn ei ardal;
(d)i Brif Swyddog yr Heddlu, y Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn eu trefn dros yr ardaloedd lle mae'r stryd wedi'i lleoli; ac
(dd)i unrhyw berson sydd wedi gwneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod strydoedd yn gofyn am gael ei hysbysu o unrhyw ddynodiad arfaethedig o dan adran 61.
4. Os nad yw'r awdurdod strydoedd yn cael gwrthwynebiad o fewn y cyfnod a bennir, neu os yw pob gwrthwynebiad wedi cael ei dynnu'n ôl, caiff yr awdurdod hwnnw wneud y dynodiad.
5. Os yw'r awdurdod strydoedd yn cael gwrthwynebiad o fewn y cyfnod hwnnw gan unrhyw berson y mae'n ofynnol rhoi copi o'r hysbysiad iddo o dan baragraff 3 neu gan unrhyw berson arall yr ymddengys i'r awdurdod strydoedd y byddai'r dynodiad arfaethedig yn effeithio arno, ac na thynnir y gwrthwynebiad yn ôl, rhaid i'r awdurdod strydoedd beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal cyn gwneud y dynodiad.
6. Pan fo ymchwiliad lleol wedi cael ei gynnal rhaid i'r awdurdod strydoedd ystyried y gwrthwynebiadau ac adroddiad y person a gynhaliodd yr ymchwiliad a chaiff wneud y dynodiad gydag addasiadau neu hebddynt, neu caiff benderfynu peidio â'i wneud.
7. Cyn dynodi stryd yn un ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig o dan adran 63 neu yn un sy'n sensitif i draffig yn unol â rheoliad 16(1), rhaid i'r awdurdod roi hysbysiad o'i fwriad i wneud y dynodiad —
(a)i bob ymgymerwr y mae'r awdurdod yn gwybod ei fod yn gweithio yn ei ardal, neu sydd wedi rhoi hysbysiad, naill ai o dan adran 54 neu o dan adran 55 ei fod yn bwriadu gwneud gwaith stryd yn ei ardal;
(b)i bob awdurdod lleol (ac eithrio'r awdurdod strydoedd) lle mae unrhyw stryd y mae'r dynodiad arfaethedig yn ymwneud â hi wedi'i lleoli;
(c)i unrhyw awdurdod trafnidiaeth lleol neu grŵp awdurdod trafnidiaeth lleol y mae'r stryd wedi'i lleoli yn ei ardal;
(ch)i Brif Swyddog yr Heddlu, Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn eu trefn dros yr ardaloedd lle mae'r stryd wedi'i lleoli; ac
(d)i unrhyw berson sydd wedi gwneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod strydoedd yn gofyn am gael ei hysbysu o unrhyw ddynodiad arfaethedig.
8. Rhaid i'r hysbysiad bennu—
(a)cyfnod, nad yw'n llai na mis o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad, y caniateir gwneud gwrthwynebiadau o'i fewn; a
(b)yn achos hysbysiad a roddir at ddibenion rheoliad 16(1), pa rai o'r meini prawf a osodir yn rheoliad 16(2) a fodlonir o ran y stryd.
9. Os nad yw'r awdurdod strydoedd yn cael gwrthwynebiad o fewn y cyfnod a bennir, neu os yw pob gwrthwynebiad wedi cael ei dynnu'n ôl, caiff yr awdurdod hwnnw wneud y dynodiad.
10. Os yw'r awdurdod strydoedd yn cael gwrthwynebiad o fewn y cyfnod hwnnw gan unrhyw berson y mae'n ofynnol rhoi copi o'r hysbysiad iddo o dan baragraff 7 neu gan unrhyw berson arall yr ymddengys i'r awdurdod strydoedd y byddai'r dynodiad arfaethedig yn effeithio arno, ac na thynnir y gwrthwynebiad yn ôl, rhaid i'r awdurdod strydoedd ystyried y gwrthwynebiad cyn gwneud y dynodiad a chaiff wneud y dynodiad gydag addasiadau neu hebddynt, neu caiff benderfynu peidio â'i wneud.
11. Rhaid i awdurdod strydoedd roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad i ddynodi stryd yn stryd a warchodir, yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig neu yn stryd sy'n sensitif i draffig i unrhyw ymgymerwr y rhoddodd gopi o hysbysiad iddo o dan baragraff 3(a), neu, yn ôl y digwydd, hysbysiad o dan baragraff 7(a).
12. Ar ôl ymgynghori â phob person sydd â hawl i gael hysbysiad neu gopi o hysbysiad o dan y weithdrefn ddynodi berthnasol, caiff awdurdod strydoedd dynnu'n ôl ddynodiad stryd yn stryd a warchodir, yn stryd sy'n sensitif i draffig neu, yn ddarostyngedig i adran 63(4), yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig, ar unrhyw adeg.
13. Caiff unrhyw berson sydd â hawl i gael hysbysiad neu gopi o hysbysiad o dan y weithdrefn ddynodi berthnasol neu unrhyw berson arall sydd ym marn yr awdurdod â buddiant digonol wneud sylwadau i'r awdurdod strydoedd yn gofyn iddo dynnu'r dynodiad yn ôl. Rhaid i'r awdurdod ystyried yn ofalus unrhyw sylwadau o'r fath cyn penderfynu ei dynnu yn ôl ai peidio.
14. Os yw awdurdod strydoedd yn tynnu dynodiad yn ôl rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad ei fod wedi'i dynnu'n ôl ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod at y diben o ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.
15. Pan fo rheolwr strydoedd yn gwneud dynodiad neu yn tynnu dynodiad yn ôl rhaid iddo hysbysu'r awdurdod priffyrdd.
16. Pan fo awdurdod priffyrdd yn gwneud dynodiad neu yn tynnu dynodiad yn ôl, neu yn cael ei hysbysu gan reolwr strydoedd yn unol â pharagraff 15, rhaid i'r awdurdod —
(a)hysbysu deiliad y consesiwn ar y pryd sydd â'r cyfrifoldeb dros gynnal a chadw'r Rhestr Strydoedd Genedlaethol; a
(b)cofnodi'r cyfryw benderfyniadau ar y gofrestr gwaith stryd,
cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag, o fewn mis.
17. Yn yr Atodlen hon —
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr ag a roddir i “local authority” gan adran 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1);
ystyr “awdurdod trafnidiaeth lleol” (“local transport authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “grŵp awdurdod trafnidiaeth lleol” (“local transport authority group”) yw unrhyw un o'r pedwar grwp o awdurdodau trafnidiaeth lleol a ddisgrifir yn yr Atodlen i Orchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006(2); ac
ystyr “y Rhestr Strydoedd Genedlaethol” (“the National Street Gazetteer”) yw'r gronfa ddata gyfrifiadurol genedlaethol o strydoedd sy'n cael ei chynnal a'i chadw gan ddeiliad y consesiwn ar y pryd a benodir gan y Tŷ Gwybodaeth Llywodraeth Leol Cyfyngedig (“the Local Government Information House Limited”).
1972 p.70. Diwygiwyd adran 270(1) gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), adran 102(2) ac Atodlen 17. Mae yna ddiwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: