- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys y Trysorydd priodol y cyfeirir ato yn adran 5(1)(c) o'r Ddeddf (sy'n ymdrin â'r Deml Fewnol a'r Deml Ganol) nac awdurdod iechyd porthladd;
ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) —
mewn perthynas â dosbarth iechyd porthladd Llundain (o fewn yr ystyr a roddir i “London port health district” at ddibenion Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1) gan adran 7(1) o'r Ddeddf honno), Cyngor Cyffredin Dinas Llundain; a
mewn perthynas ag unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
ystyr “caead” (“lid”) yw caead o'r math a grybwyllir yn Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “mewnforio” (“import”) yw mewnforio wrth gynnal busnes o fan ac eithrio Aelod-wladwriaeth;
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007 sy'n gosod terfynau ymfudiad trosiannol ar gyfer plastigyddion mewn gasgedi mewn caeadau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd(2);
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson a awdurdodir yn ysgrifenedig, naill ai'n gyffredinol neu'n benodol, gan awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, gan awdurdod iechyd porthladd, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Mae i unrhyw ymadrodd Cymraeg arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadrodd Saesneg sy'n cyfateb iddo yn cael ei ddefnyddio yn Rheoliad y Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad hwnnw.
OJ Rhif L92, 3.4.2007, t.9. Cywirwyd croniclad 2 o'r Rheoliad gan gorigendwm, (OJ Rhif L97, 12.4.2007, t.70), a wnaeth fân gywiriad i ddyddiad sy'n rhan o enw un o offerynnau'r GE yn un o'r cronicladau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: