RHAN 2TALIADAU COSB
Gosod taliadau cosb3
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn mae tâl cosb yn daladwy o ran cerbyd y cyflawnwyd yn ei gylch dramgwydd parcio o fewn paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 mewn ardal gorfodi sifil yng Nghymru.
Y person sydd i dalu tâl cosb4
1
Pan fydd tramgwydd parcio'n digwydd, penderfynir pwy yw'r person sydd i dalu'r tâl cosb am y tramgwydd yn unol â darpariaeth ganlynol y rheoliad hwn.
2
Mewn achos nad yw'n dod o fewn paragraff (3), bydd y tâl cosb yn daladwy gan y person a oedd yn berchennog y cerbyd a oedd yn destun y tramgwydd ar yr adeg berthnasol.
3
Os bydd—
a
y cerbyd yn gerbyd a yrrir yn fecanyddol a oedd, ar yr adeg berthnasol, yn cael ei logi gan ffyrm llogi cerbydau o dan gytundeb llogi;
b
y person sy'n llogi'r cerbyd wedi llofnodi datganiad yn cydnabod ei atebolrwydd o ran unrhyw hysbysiad o dâl cosb a gyflwynir o ran unrhyw dramgwydd parcio sy'n ymwneud â'r cerbyd yn ystod cyfnod y cytundeb llogi; ac
c
perchennog y cerbyd, mewn ymateb i hysbysiad i berchennog a gyflwynir iddo, wedi gwneud sylwadau ar y sail a bennir yn rheoliad 4(4)(ch) o'r Rheoliadau Sylwadau ac Apelau a bod yr awdurdod gorfodi wedi derbyn y sylwadau hynny,
bydd y tâl cosb yn daladwy gan y person y llogwyd y cerbyd ganddo ac ymdrinnir â'r person hwnnw fel pe bai'n berchennog y cerbyd ar yr adeg berthnasol at ddibenion y Rheoliadau hyn.
4
Yn y rheoliad hwn—
a
mae i “cytundeb llogi” a “ffyrm llogi cerbydau” yr ystyr sydd i “hiring agreement” a “vehicle-hire firm” yn adran 66 o Ddeddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 19887; a
b
ystyr “yr adeg berthnasol” (“the material time”) yw'r adeg y dywedir bod y tramgwydd sy'n peri'r tâl cosb wedi digwydd.
Tystiolaeth o dramgwydd5
Ni osodir tâl cosb ac eithrio—
a
ar y sail y cynhyrchir cofnod gan ddyfais a gymeradwyir; neu
b
ar sail yr wybodaeth a roddir gan swyddog gorfodi sifil o ran ymddygiad y bydd y swyddog hwnnw wedi sylwi arno.
Achosion troseddol am dramgwyddau parcio mewn ardaloedd gorfodi sifil6
1
Ni cheir cychwyn achos troseddol ac ni cheir cyflwyno hysbysiad o gosb benodedig o ran unrhyw dramgwydd parcio sy'n digwydd mewn ardal gorfodi sifil, ac eithrio tramgwydd croesfan i gerddwyr.
2
Ni fydd tâl cosb yn daladwy o ran tramgwydd croesfan i gerddwyr—
a
os yw'r ymddygiad sy'n gwneud y tramgwydd yn destun achos troseddol; neu
b
os rhoddwyd hysbysiad o gosb benodedig, fel y'i diffinnir gan adran 52 o Ddeddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 19888, ynglŷn â'r ymddygiad hwnnw.
3
Er gwaethaf darpariaethau paragraff (2)—
a
os talwyd tâl cosb ynglyn â thramgwydd croesfan i gerddwyr ; a
b
os yw'r amgylchiadau fel a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) neu (b),
rhaid i'r awdurdod gorfodi, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r amgylchiadau ddod i'w sylw, ad-dalu swm y tâl cosb.