Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr ystyr sydd i “food authority” yn adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1);

ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw'r awdurdod y mae'n ofynnol iddo gan adran 67(1) o Ddeddf Amaeth 1970(2) orfodi'r Ddeddf honno o fewn ei ardal neu, yn ôl y digwydd, ei ddosbarth;

mae i “bwyd” (“food”) yr ystyr a roddir i “food” yn erthygl 2 o Reoliad 178/2002;

mae i “bwyd anifeiliaid” (“feed”) yr ystyr sydd i “feed” yn erthygl 3(4) o Reoliad 178/2002;

ystyr “cynnyrch reis” (“rice product”) yw unrhyw gynnyrch reis y cyfeirir ato yn y tabl yn erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn sy'n tarddu o Unol Daleithiau America;

mae i “ei osod gyntaf ar y farchnad” (“first placing on the market”) yr ystyr sydd i “first placing on the market” ym Mhenderfyniad y Comisiwn;

ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2006/601/EC sy'n ymwneud â mesurau argyfwng ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig nas awdurdodwyd “LL RICE 601” mewn cynhyrchion reis(3) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2008/162/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2006/601/EC sy'n ymwneud â mesurau argyfwng ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig nas awdurdodwyd “LL RICE 601” mewn cynhyrchion reis(4);

ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5) fel fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch nifer ac enwau Panelau Gwyddonol Parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop(6).

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), mewn perthynas ag awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd yw unrhyw berson (boed yn swyddog o'r awdurdod ai peidio) a awdurdodwyd ganddo yn ysgrifenedig, naill ai yn gyffredinol neu yn arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn;

(2Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 wedi eu neilltuo—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(7), i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(8), i fwrdd ar y cyd ar gyfer dosbarth unedig,

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y neilltuwyd y swyddogaethau hynny iddo.

(1)

1990 p.16. Mewnosodwyd adran 5(1A) gan Ddeddf Llwyodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), adran 22(3) ac Atodlen 9, paragraff 16(1).

(3)

OJ Rhif L244, 7.9.2006, t.27.

(4)

OJ Rhif L52, 27.2.2008, t.25.

(5)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(6)

OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3.

(8)

1936 p.49; mae adran 6 i' w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources