- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5. Mae'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf honno neu Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a)adran 20 (tramgwyddau sy'n codi oherwydd bai person arall);
(b)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(1), gyda'r addasiad bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan rheoliad 3(2) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15, ac yn is-adran (2)(a) a (3)(b) bernir bod y cyfeiriadau at “food” yn gyfeiriadau at fwyd anifeiliaid neu fwyd ac yn is-adran (4)(b) bernir bod y cyfeiriadau at “sale or intended for sale” yn gyfeiriadau at “first placing on the market”;
(c)adran 32 (pwerau mynediad), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad yn is-adran (1) at “an enforcement authority” yn gyfeiriad at awdurdod bwyd anifeiliaid neu at awdurdod bwyd, ac y bernir bod cyfeiriadau at “the authority’s area” yn gyfeiriadau at ei ardal neu, yn ôl y digwydd, ei ddosbarth, a bernir bod y cyfeiriad at “a food authority” yn gyfeiriad at awdurdod bwyd anifeiliaid neu at awdurdod bwyd;
(ch)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(d)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn is-adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(dd)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(2), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch);
(e)adran 35(2) a (3)(3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);
(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ff)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(4); ac
(g)adran 44 (diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll), gyda'r addasiad y bernir bod cyfeiriadau at “food authority” yn gyfeiriadau at awdurdod bwyd anifeiliaid neu at awdurdod bwyd.
Cafodd adran 21 ei diwygio gan O.S. 2004/3279.
Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p. 44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.
Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.
Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28), Atodlen 5, paragraff 16.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: