Darpariaethau i'w datgymhwyso
4.—(1) Os bydd awdurdod perthnasol yn gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned, neu'n awdurdod tân ac achub sydd wedi mabwysiadu cod ymddygiad neu os bydd y cyfryw god yn gymwys iddo, datgymhwysir y canlynol o ran yr awdurdod hwnnw, os ydynt yn gymwys i'r awdurdod perthnasol—
(a)adrannau 94 i 98 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1); a
(b)unrhyw reoliadau a wnaed neu god a ddyroddwyd o dan adrannau 19 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(2).
(2) Os bydd awdurdod perthnasol yn awdurdod Parc Cenedlaethol sydd wedi mabwysiadu cod ymddygiad neu os bydd y cyfryw god yn gymwys iddo, datgymhwysir y canlynol o ran yr awdurdod hwnnw, os yw'n gymwys i'r awdurdod perthnasol —
(a)paragraffau 9 a 10 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995(3); a
(b)unrhyw reoliadau a wnaed neu god a ddyroddwyd o dan adrannau 19 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
(3) Bydd adran 16(1) o Ddeddf Dehongli 1978(4) yn gymwys i ddatgymhwysiad o dan baragraff (1) neu baragraff (2) uchod fel pe bai'n ddiddymiad, gan Ddeddf, o ddeddfiad.