Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 18 Ebrill 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru.
DehongliLL+C
2. Yn y Gorchymyn hwn —
mae i “aelod” (“member”) yr ystyr a geir yn Rhan 1 o'r cod enghreifftiol yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;
mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a geir yn Rhan 1 o'r cod enghreifftiol yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;
mae i “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yr ystyr a geir yn Rhan 1 o'r cod enghreifftiol yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn; ac
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.
Cod Ymddygiad EnghreifftiolLL+C
3.—(1) Ceir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn god enghreifftiol o ran yr ymddygiad y disgwylir i aelodau o awdurdod perthnasol ei arddel.
(2) At ddibenion adran 50(4) o'r Ddeddf, mae darpariaethau'r cod enghreifftiol i'w hystyried yn rhai gorfodol.
Darpariaethau i'w datgymhwysoLL+C
4.—(1) Os bydd awdurdod perthnasol yn gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned, neu'n awdurdod tân ac achub sydd wedi mabwysiadu cod ymddygiad neu os bydd y cyfryw god yn gymwys iddo, datgymhwysir y canlynol o ran yr awdurdod hwnnw, os ydynt yn gymwys i'r awdurdod perthnasol—
(a)adrannau 94 i 98 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(); a
(b)unrhyw reoliadau a wnaed neu god a ddyroddwyd o dan adrannau 19 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989().
(2) Os bydd awdurdod perthnasol yn awdurdod Parc Cenedlaethol sydd wedi mabwysiadu cod ymddygiad neu os bydd y cyfryw god yn gymwys iddo, datgymhwysir y canlynol o ran yr awdurdod hwnnw, os yw'n gymwys i'r awdurdod perthnasol —
(a)paragraffau 9 a 10 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995(); a
(b)unrhyw reoliadau a wnaed neu god a ddyroddwyd o dan adrannau 19 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
(3) Bydd adran 16(1) o Ddeddf Dehongli 1978() yn gymwys i ddatgymhwysiad o dan baragraff (1) neu baragraff (2) uchod fel pe bai'n ddiddymiad, gan Ddeddf, o ddeddfiad.
DirymuLL+C
5. Dirymir y gorchmynion canlynol:
(a)Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001();
(b)Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Diwygio) (Cymru) 2004(); ac
(c)Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2004().
Darpariaethau Trosiannol ac ArbedionLL+C
6. Mae'r gorchmynion y cyfeirir atynt yn erthygl 5 yn parhau i fod yn effeithiol at ddibenion y canlynol ac at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r canlynol —
(a)ymchwilio i unrhyw honiad ysgrifenedig o dan Ran 3 o'r Ddeddf, pan fo'r honiad hwnnw'n ymwneud ag ymddygiad a ddigwyddodd cyn y dyddiad pryd, yn unol ag adran 51 o'r Ddeddf()—
(i)y bydd yr awdurdod perthnasol yn mabwysiadu cod ymddygiad sy'n ymgorffori darpariaethau gorfodol y cod ymddygiad enghreifftiol yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn lle ei god ymddygiad presennol;
(ii)y bydd yr awdurdod perthnasol yn diwygio'i god ymddygiad presennol i ymgorffori darpariaethau gorfodol y cod ymddygiad enghreifftiol a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn; neu
(iii)y bydd darpariaethau gorfodol y cod ymddygiad enghreifftiol a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gymwys i aelodau neu aelodau cyfetholedig o'r awdurdod perthnasol o dan adran 51(5)(b) o'r Ddeddf honno;
(b)dyfarnu (neu benderfynu) ar fater a godir mewn honiad o'r fath; ac
(c)apêl yn erbyn penderfyniad pwyllgor safonau, tribiwnlys achos interim neu dribiwnlys achos mewn perthynas â honiad o'r fath.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
20 Mawrth 2008