Nodyn Esboniadol
Sefydlodd Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.
Mae adran 50(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) drwy orchymyn ddyroddi cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad y disgwylir i aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol yng Nghymru ei arddel. Trosglwyddir y swyddogaeth hon oddi wrth y Cynulliad i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Awdurdodau perthnasol yng Nghymru at ddibenion y Gorchymyn hwn yw cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Nid yw awdurdodau heddlu'n awdurdodau perthnasol at ddibenion y Gorchymyn hwn.
Mae'n rhaid i god ymddygiad a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 50(2) o'r Ddeddf fod yn gyson â'r egwyddorion a bennir yn unol ag adran 49(2) o'r Ddeddf a geir ar hyn o bryd yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001. Mae adran 50(3) o'r Ddeddf yn rhoi'r hawl i Weinidogion Cymru i ddiwygio cod enghreifftiol sydd wedi ei ddyroddi.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001 ac offerynnau statudol blaenorol sy'n diwygio ac yn dyroddi cod enghreifftiol diwygiedig yn unol ag adran 50(2) a (3) o'r Ddeddf. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn parhau datgymhwysiad darpariaethau statudol sy'n ymwneud â Chod Cenedlaethol Ymddygiad Llywodraeth Leol yng Nghymru (ymhlith eraill).
Mae'r cod enghreifftiol diwygiedig yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Mae Rhan 1 o'r cod enghreifftiol yn ymwneud â dehongli.
Mae Rhan 2 o'r cod enghreifftiol yn darparu ar gyfer darpariaethau cyffredinol y cod enghreifftiol.
Mae Rhan 3 o'r cod enghreifftiol yn ymwneud â buddiannau personol a buddiannau sy'n rhagfarnu ac â datgelu'r cyfryw fuddiannau gan aelodau ac aelodau cyfetholedig ac â chyfrannu gan aelodau ac aelodau cyfetholedig mewn cysylltiad â'r cyfryw fuddiannau.
Mae Rhan 4 o'r cod enghreifftiol yn ymwneud â'r gofrestr fuddiannau, ac â chofrestru rhoddion a lletygarwch.