Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Schedule
PrintThis
Part
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
RHAN 1DEHONGLI
1.—(1) Yn y cod hwn —
mae “aelod” (“member”) yn cynnwys aelod cyfetholedig onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall;
ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod ond—
(a)
sy'n aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod, neu
(b)
sy'n aelod o unrhyw gyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod, ac sy'n cynrychioli'r awdurdod arno,
ac sydd â'r hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu mewn unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor neu o'r is-bwyllgor hwnnw;
ystyr “eich awdurdod” (“your authority”) yw'r awdurdod perthnasol yr ydych chi'n aelod neu'n aelod cyfetholedig ohono;
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw—
(b)
cyngor bwrdeistref sirol,
(ch)
awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004() neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo,
(d)
awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995();
ystyr “cyfarfod” (“meeting”) yw unrhyw gyfarfod —
(a)
o'r awdurdod perthnasol,
(b)
o unrhyw weithrediaeth neu fwrdd i'r awdurdod perthnasol,
(c)
o unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod perthnasol neu unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor o'r fath i unrhyw weithrediaeth neu fwrdd i'r awdurdod, neu
(ch)
y mae aelodau neu swyddogion yr awdurdod perthnasol yn bresennol ynddo ac eithrio cyfarfod grŵp gwleidyddol a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990(),
ac mae'n cynnwys amgylchiadau pan fo aelod o weithrediaeth neu fwrdd neu swyddog sy'n gweithredu ar ei ben ei hun yn arfer un o swyddogaethau awdurdod; ac
ystyr “chi” (“you”) yw chi fel aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol.
Mewn perthynas â chyngor-cymuned, mae cyfeiriadau at swyddog monitro awdurdod a phwyllgor safonau awdurdod i'w darllen, yn y drefn honno, fel cyfeiriadau at swyddog monitro ac at bwyllgor safonau'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol y mae ganddo swyddogaethau mewn perthynas â'r cyngor cymuned y mae'n gyfrifol amdano o dan adran 56(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Back to top