Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau3

Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—

a

Y ddyletswydd i baratoi'r cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth a chyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;

b

Eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1.

c

Eiddo ymddiriedol elusennol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.