- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
28 Mawrth 2008
Yn dod i rym
1 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 29 o Atodlen 3 iddi(1) ac ar ôl cwblhau'r ymgynghori statudol fel y'i rhagnodwyd o dan baragraff 29(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall;
ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) “yw 1 Ebrill 2008;
ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg a sefydlwyd ar 19 Chwefror 1996;
ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogir felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
(2) Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —
(a)yn rhinwedd yr erthygl hon, trosglwyddir yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
(b)bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen wedi'i wneud gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) uchod yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'r cyflogai yn ei amodau gwaith, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi yn unig oherwydd y newid mewn cyflogwr a berir gan yr erthygl hon.
3. Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—
(a)Y ddyletswydd i baratoi'r cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth a chyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;
(b)Eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1.
(c)Eiddo ymddiriedol elusennol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.
4. Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2008
Erthygl 3(b)
Eiddo | Deiliadaeth | Cofrestr Tir |
---|---|---|
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg | ||
Ysbyty | ||
Tywysog Charles | Rhydd-ddaliad | WA794505 |
Cyffredinol Aberdâr | Rhydd-ddaliad | WA794503 |
Santes Tudful | Rhydd-ddaliad | WA794584 |
Aberpennar | Rhydd-ddaliad | WA794490 |
Clinigau/ Canolfannau Iechyd Canolfan Adnoddau Iechyd Meddwl | ||
Canolfan Iechyd Abercynon, Ffordd Ynysmeurig, Abercynon, Rhondda Cynon Taf, CF45 4SU | Lesddaliad | |
Aberdâr | Rhydd-ddaliad | WA794527 |
Aber-fan | Rhydd-ddaliad | WA794484 WA794534484 |
Hirwaun | Rhydd-ddaliad | WA707946 |
Hollies | Rhydd-ddaliad | WA794547 |
Tŷ Campsie, Merthyr | Rhydd-ddaliad | WA794534 |
Seymour Berry | Rhydd-ddaliad | WA794517 |
Treharris | Rhydd-ddaliad | WA794595 |
Arall | ||
Uned 7A, Ystâd Ddiwydiannol Cyfarthfa, CF47 8PE | Lesddaliad |
Erthygl 3(c)
Cronfa Elussennol Gyffredinol Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Morgannwg (gan gynnwyws pob is-elusen) —Rhif 1060880.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf o 1 Ebrill 2008 ymlaen.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Morgannwg i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf ar 1 Ebrill 2008.
Rheoliadau Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996, O.S. 1996/653, sy'n parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006. p.43.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: