xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 931 (Cy.91)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Gaerfyrddin (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008

Gwnaed

28 Mawrth 2008

Yn dod i rym

1 Ebrill 2008

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), a pharagraff 29 o Atodlen 3 iddi, mae Gweinidogion Cymru, ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad fel a ragnodwyd o dan baragraff 29(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Gaerfyrddin (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.

(2Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:

ystyr “y dyddiad trosglwyddo"” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2008;

ystyr “yr hen ymddiriedolaeth"” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Gaerfyrddin a sefydlwyd ar 4 Ionawr 1999;

ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.

Trosglwyddo cyflogeion i'r trosglwyddai

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth yn cael ei drosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogid felly a'r ymddiriedolaeth newydd.

(2Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —

(a)yn rhinwedd yr erthygl hon, bydd yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;

(b)bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi o ran y contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.

(3Nid yw paragraffau (1) a (2) uchod yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'w amodau gwaith, ond ni fydd hawl o'r fath yn codi dim ond oherwydd y newid mewn cyflogwr y rhoddir effaith iddo gan yr erthygl hon.

Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau

3.  Ar y dyddiad trosglwyddo bydd holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—

(a)y ddyletswydd i baratoi cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth ac i gyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;

(b)eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1;

(c)elusennau'r hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.

Trosglwyddo swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd

4.  Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

28 Mawrth 2008

Erthygl 3(b)

ATODLEN 1

EiddoDeiliadaeth (a rhif teitl pan fo'n gymwys)
Ysbyty
Ysbyty Dyffryn AmanRhydd-ddaliad (WA830179)
Ysbyty LlanymddyfriRhydd-ddaliad (WA824588)
Ysbyty Mynydd MawrRhydd-ddaliad (WA791307)
Ysbyty'r Tywysog PhilipRhydd-ddaliad (WA253967)
Ysbyty Cyffredinol Gorllewin CymruRhydd-ddaliad (WA854392) Rhydd-ddaliad (WA851840) Rhydd-ddaliad (CYM8170)
Canolfannau Iechyd
Canolfan Iechyd Cross HandsRhydd-ddaliad (WA750262)
Gwasanaethau Deintyddol, Canolfan Iechyd Cross HandsLesddaliad
Canolfan Iechyd LlwynhendyLesddaliad
Clinigau
Clinig Heol y Pwll, CaerfyrddinRhydd-ddaliad (WA824587)
Clinig Elizabeth Williams, LlanelliRhydd-ddaliad (WA293483) a (CYM93884)
Amrywiol
Trefniadau i ddefnyddio Ystafelloedd Cyfweld yr Awdurdod Heddlu yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin CymruLesddaliad
Meddiannu safle Ysbyty Dewi Sant — blociau 01,07 a 19Lesddaliad
39, Heol Bronwydd, CaerfyrddinRhydd-ddaliad (WA816889)
Cyfleuster Gwasanaethau Arlwyo ym Mryntirion, LlanelliLesddaliad
Cyfleusterau Crèche yn Ysbyty'r Tywysog PhilipLesddaliad
3 Heol Dolgwili, CaerfyrddinRhydd-ddaliad (WA750254)
18, Hafod Cwnin, CaerfyrddinRhydd-ddaliad (WA774375)
Ystafell 3, Tudor House, Llangrallo, Pen-y-bont ar OgwrLesddaliad
Tŷ Arthur, Ysbyty Cyffredinol Gorllewin CymruLesddaliad
Tŷ Cymorth, 1 Heol Bronwydd, CaerfyrddinRhydd-ddaliad (WA750257)

Erthygl 3(c)

ATODLEN 2

Cronfa Elusennol Gyffredinol Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin (gan gynnwys pob is-elusen) — Rhif Elusen 1049213.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Gaerfyrddin i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda o 1 Ebrill 2008 ymlaen.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Gaerfyrddin i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda ar 1 Ebrill 2008.

(2)

Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996, O.S. 1996/653, sy'n parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006. p.43.