2008 Rhif 939 (Cy.99)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Diddymu) 2008

Gwnaed

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061 a pharagraff 28(1) o Atodlen 3 iddi, mae Gweinidogion Cymru, ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodwyd o dan baragraff 28(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno2, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Diddymu) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.

Diddymu Ymddiriedolaeth GIG2

Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Sefydlu) 19983 ac, yn unol â hynny, dirymir y Gorchymyn hwnnw a Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Sefydlu) Diwygio 20004.

Edwina HartY Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg ar 1 Ebrill 2008.