xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
28 Mawrth 2008
Yn dod i rym
1 Ebrill 2008
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Diddymu) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
2. Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Sefydlu) 1998(3) ac, yn unol â hynny, dirymir y Gorchymyn hwnnw a Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Sefydlu) Diwygio 2000(4).
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg ar 1 Ebrill 2008.
Rheoliadau Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996, O.S. 1996/653, sy'n parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006.