2009 Rhif 106 (Cy.20)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 68(1), 69(1), 74A ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 19701.
Bu ymgynghori yn ystod gwaith paratoi'r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 neu, fel y bo'n briodol, o Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor2 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.