Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2009
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 20 Chwefror 2009.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 20062.
(1)
(2)
Yn Atodlen 5 (cyfyngiadau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol) —
(a)
ym Mhennod A, yn y cofnodion ynghylch fflworin—
(i)
ar ôl y cofnod olaf yng ngholofn 2 ychwaneger “— complete feeding stuffs for fish”, a
(ii)
ar ôl y cofnod olaf yng ngholofn 3 ychwaneger “350”;
(b)
ym Mhennod C —
(i)
hepgorer y cofnodion ynghylch Apricots, Bitter almond and Camelina;
(ii)
ar gyfer y cofnodion ynghylch Weed seeds etc. rhodder y canlynol —
Column 1 | Column 2 | Column 3 |
---|---|---|
Undesirable substances | Products intended for animal feed | Maximum content in mg/kg of feeding stuffs referred to a moisture content of 12% |
Weed seeds and unground and uncrushed fruits containing alkaloids, glucosides or other toxic substances, separately or in combination including: | All feeding stuffs | 3000 |
Datura stramonium L. | 1000 |
(c)
ym Mhennod D, yn y cofnodion ynghylch DDT yng ngholofn 1, yn lle'r ymadrodd mewn cromfachau rhodder “(sum of DDT-, DDD- (or TDE-) and DDE-isomers, expressed as DDT)”.
(3)
Yn Atodlen 7 (bwydydd anifeiliaid a ganiateir at ddibenion maethiadol penodol a darpariaethau ynghylch eu defnyddio), yn lle'r cofnodion ynghylch cefnogi swyddogaeth arennol mewn achos o annigonolrwydd cronig yr arennau yn rhes gyntaf y tabl ym Mhennod A, rhodder y cofnodion a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
YR ATODLENCofnodion sydd i'w rhoi yn lle'r cofnodion ynghylch cefnogi swyddogaeth arennol mewn achos o annigonolrwydd cronig yr arennau yn Atodlen 7 i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006
Particular nutritional purpose | Essential nutritional characteristics | Species or category of animal | Labelling declarations | Recommended length of time for use | Other provisions |
---|---|---|---|---|---|
Support of renal function in case of chronic renal insufficiency(1) | Low level of phosphorus and restricted level of protein but of high quality | Dogs and cats |
| Initially up to 6 months(2) | Indicate on the package, container or label: “It is recommended that a veterinarian’s opinion be sought before use or before extending the period of use”. |
Indicate in the instructions for use: “Water should be available at all times”. | |||||
or | |||||
Reduced phosphorus absorption by means of incorporation of Lanthanum carbonate octahydrate | Adult cats |
| Initially up to 6 months(2) | Indicate on the package, container or label: “It is recommended that a veterinarian’s opinion be sought before use or before extending the period of use”. | |
Indicate in the instructions for use: “Water should be available at all times”. |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 (O.S. 2006/116 (Cy.14) a ddiwygiwyd eisoes gan O.S. 2006/617 (Cy.69), O.S. 2006/2928 (Cy. 263), O.S. 2006/3256 (Cy.296), O.S. 2007/3171 (Cy.277) ac O.S. 2008/1806 (Cy.174)) (“y Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid”).
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu—
Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/76/EC sy'n diwygio Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid ( OJ Rhif L198, 26.7.2008, t.37); a
Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/82/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/38/EC o ran bwydydd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer cefnogi swyddogaeth arennol mewn achos o annigonolrwydd cronig yr arennau (OJ Rhif L202, 31.7.2008, t.48).
O ran paragraff 2(a), mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 5 (cyfyngiadau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol) i'r Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid. Mae'r newidiadau'n ymwneud â fflworin, cynhyrchion planhigion penodol a DDT.
O ran paragraff 2(b), mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r tabl yn Atodlen 7 (bwydydd anifeiliaid a ganiateir at ddibenion maethiadol penodol a darpariaethau ynghylch eu defnyddio) i'r Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid, drwy ddisodli'r cofnodion presennol ynghylch cefnogi swyddogaeth arennol mewn achos o annigonolrwydd cronig yr arennau.
Ni chafodd asesiad effaith llawn ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sectorau preifat na gwirfoddol.