Offerynnau Statudol Cymru
2009 Rhif 106 (Cy.20)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed
24 Ionawr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Ionawr 2009
Yn dod i rym
20 Chwefror 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 68(1), 69(1), 74A ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1).
Bu ymgynghori yn ystod gwaith paratoi'r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 neu, fel y bo'n briodol, o Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(2) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 20 Chwefror 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006
2.—(1) Diwygier Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006(3) yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn Atodlen 5 (cyfyngiadau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol) —
(a)ym Mhennod A, yn y cofnodion ynghylch fflworin—
(i)ar ôl y cofnod olaf yng ngholofn 2 ychwaneger “— complete feeding stuffs for fish”, a
(ii)ar ôl y cofnod olaf yng ngholofn 3 ychwaneger “350”;
(b)ym Mhennod C —
(i)hepgorer y cofnodion ynghylch Apricots, Bitter almond and Camelina;
(ii)ar gyfer y cofnodion ynghylch Weed seeds etc. rhodder y canlynol —
Column 1 | Column 2 | Column 3 |
---|---|---|
Undesirable substances | Products intended for animal feed | Maximum content in mg/kg of feeding stuffs referred to a moisture content of 12% |
Weed seeds and unground and uncrushed fruits containing alkaloids, glucosides or other toxic substances, separately or in combination including: | All feeding stuffs | 3000 |
Datura stramonium L. | 1000 |
(c)ym Mhennod D, yn y cofnodion ynghylch DDT yng ngholofn 1, yn lle'r ymadrodd mewn cromfachau rhodder “(sum of DDT-, DDD- (or TDE-) and DDE-isomers, expressed as DDT)”.
(3) Yn Atodlen 7 (bwydydd anifeiliaid a ganiateir at ddibenion maethiadol penodol a darpariaethau ynghylch eu defnyddio), yn lle'r cofnodion ynghylch cefnogi swyddogaeth arennol mewn achos o annigonolrwydd cronig yr arennau yn rhes gyntaf y tabl ym Mhennod A, rhodder y cofnodion a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
24 Ionawr 2009
Rheoliad 2(3)
YR ATODLENCofnodion sydd i'w rhoi yn lle'r cofnodion ynghylch cefnogi swyddogaeth arennol mewn achos o annigonolrwydd cronig yr arennau yn Atodlen 7 i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006
Particular nutritional purpose | Essential nutritional characteristics | Species or category of animal | Labelling declarations | Recommended length of time for use | Other provisions |
---|---|---|---|---|---|
Support of renal function in case of chronic renal insufficiency(1) | Low level of phosphorus and restricted level of protein but of high quality | Dogs and cats |
| Initially up to 6 months(2) | Indicate on the package, container or label: “It is recommended that a veterinarian’s opinion be sought before use or before extending the period of use”. |
Indicate in the instructions for use: “Water should be available at all times”. | |||||
or | |||||
Reduced phosphorus absorption by means of incorporation of Lanthanum carbonate octahydrate | Adult cats |
| Initially up to 6 months(2) | Indicate on the package, container or label: “It is recommended that a veterinarian’s opinion be sought before use or before extending the period of use”. | |
Indicate in the instructions for use: “Water should be available at all times”. |
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 (O.S. 2006/116 (Cy.14) a ddiwygiwyd eisoes gan O.S. 2006/617 (Cy.69), O.S. 2006/2928 (Cy. 263), O.S. 2006/3256 (Cy.296), O.S. 2007/3171 (Cy.277) ac O.S. 2008/1806 (Cy.174)) (“y Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid”).
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu—
(a)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/76/EC sy'n diwygio Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid ( OJ Rhif L198, 26.7.2008, t.37); a
(b)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/82/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/38/EC o ran bwydydd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer cefnogi swyddogaeth arennol mewn achos o annigonolrwydd cronig yr arennau (OJ Rhif L202, 31.7.2008, t.48).
3. O ran paragraff 2(a), mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 5 (cyfyngiadau rhagnodedig ar gyfer sylweddau annymunol) i'r Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid. Mae'r newidiadau'n ymwneud â fflworin, cynhyrchion planhigion penodol a DDT.
4. O ran paragraff 2(b), mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r tabl yn Atodlen 7 (bwydydd anifeiliaid a ganiateir at ddibenion maethiadol penodol a darpariaethau ynghylch eu defnyddio) i'r Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid, drwy ddisodli'r cofnodion presennol ynghylch cefnogi swyddogaeth arennol mewn achos o annigonolrwydd cronig yr arennau.
5. Ni chafodd asesiad effaith llawn ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sectorau preifat na gwirfoddol.
1970 p.40. Mae adran 66(1) yn cynnwys diffiniadau o'r ymadroddion “the Ministers”, “prescribed” a “regulations”. Diwygiwyd y diffiniad o “the Ministers” gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S.1978/272), Atodlen 5, paragraff 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Mewnosodwyd adran 74A gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), Atodlen 4, paragraff 6.
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 202/2008 (OJ Rhif. L60, 5.3.2008, t.17).
O.S. 2006/116 (Cy. 14) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/617 (Cy.69), O.S. 2006/2928 (Cy. 263), O.S. 2006/3256 (Cy. 296), O.S. 2007/3171 (Cy. 277) ac O.S. 2008/1806 (Cy. 174).