(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau ynghylch codi ffioedd ac adennill ffioedd ynglŷn â chyflenwi cyffuriau a darparu triniaeth fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, er mwyn galluogi darparu triniaeth ynglŷn â ffliw pandemig heb godi ffi.

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007, i ddarparu yn ychwanegol at yr amgylchiadau presennol y mae cyffuriau i'w darparu'n ddi-dâl, na chaniateir codi ffi ynghylch cyffuriau pan gyflenwir y cyfryw gyffuriau pan fo clefyd pandemig (megis ffliw pandemig), sy'n ymddangos yn risg difrifol i iechyd dynol neu sy'n ymddangos yn bosibl i fod yn risg difrifol i iechyd dynol (neu pan ragwelir bod clefyd o'r fath ar ddigwydd) a bod cyflenwad o'r cyffuriau yn unol â phrotocol sy'n ymwneud â'r clefyd hwnnw fel y darperir ar ei gyfer yn erthygl 12F o Orchymyn Meddyginiaethau Presgripsiwn yn Unig (Defnydd Dynol) 1997 neu erthygl 8 o Orchymyn Meddyginiaethau (Gwerthiant Fferyllfeydd a Gwerthiant Cyffredinol-Esemptiad) 1980.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd i Ymwelwyr Tramor) 1989 (“Rheoliadau 1989”), sy'n darparu ar gyfer codi ffioedd ynghylch darparu triniaeth benodol gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i bersonau nad ydynt fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig (“ymwelwyr tramor”). Mae rheoliad 3(c) o Reoliadau 1989 yn darparu na cheir codi unrhyw ffi ynglŷn â gwasanaethau sy'n ffurfio rhan o'r gwasanaeth iechyd a ddarperir i ymwelydd tramor ar gyfer triniaeth sy'n ymwneud â chlefyd a restrir yn Atodlen 1 i Reoliadau 1989. Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Atodlen honno i fewnosod cofnod am ffliw pandemig. Yr effaith fydd na chodir ffi ar ymwelydd tramor sy'n cael ei drin mewn ysbyty am ffliw pandemig am unrhyw driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n ymwneud â'r cyflwr hwnnw.

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn gan nad yw'n effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.