Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2009, a daw i rym ar 1 Mehefin 2009.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol” (“the relevant religion or religious denomination”) yw'r grefydd neu'r enwad crefyddol y caiff addysg yn yr ysgol ei darparu neu'r ysgol ei rheoli yn unol â'i daliadau neu â'i ddaliadau (neu, yn ôl y digwydd, pob enwad crefyddol o'r fath).

Dynodi ysgolion

3.—(1Dynodir yr Ysgolion a restrir yng ngholofn (1) yn yr Atodlen yn ysgolion sydd â chymeriad crefyddol.

(2Mewn perthynas ag ysgol a restrir yng ngholofn (1) yn yr Atodlen, pennir yng ngholofn (2) y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol i'r ysgol honno.

Jane E. Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

8 Mai 2009