xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2009, a daw i rym ar 1 Mehefin 2009.
2. Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol” (“the relevant religion or religious denomination”) yw'r grefydd neu'r enwad crefyddol y caiff addysg yn yr ysgol ei darparu neu'r ysgol ei rheoli yn unol â'i daliadau neu â'i ddaliadau (neu, yn ôl y digwydd, pob enwad crefyddol o'r fath).
3.—(1) Dynodir yr Ysgolion a restrir yng ngholofn (1) yn yr Atodlen yn ysgolion sydd â chymeriad crefyddol.
(2) Mewn perthynas ag ysgol a restrir yng ngholofn (1) yn yr Atodlen, pennir yng ngholofn (2) y grefydd berthnasol neu'r enwad crefyddol perthnasol i'r ysgol honno.
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
8 Mai 2009