1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2009.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “y Cynllun” (“the Scheme”) yw Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru), a welir yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(1).
(3) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 9 Mehefin 2009 ond, yn ddarostyngedig i baragraff (4) mae'n effeithiol o 1 Ebrill 2007 ymlaen.
(4) Mae'r darpariaethau canlynol o'r Atodlen, a chymaint o erthygl 2 ag sy'n ymwneud â'r darpariaethau hynny, yn effeithiol o 1 Gorffennaf 2007 ymlaen—
(a)paragraff 4(d), i'r graddau y mae'n ymwneud â'r rheol newydd 7B o Ran 3 o'r Cynllun (budd pensiwn ychwanegol: datblygiad proffesiynol parhaus), a chymaint o'r rheol newydd 7C ag sy'n ymwneud â'r rheol newydd 7B, a
(b)paragraff 9(a)(i) a (b)(i).
(5) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Diwygir Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(2) yn unol â'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Brian Gibbons
Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
13 Mai 2009