Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007. Mae rhai o'r diwygiadau yn cywiro gwallau yng Nghynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (“y Cynllun”) a welir yn yr Atodlen honno. Mae eraill yn cyflwyno darpariaethau newydd.

Ac eithrio fel a grybwyllir isod, mae'r Gorchymyn yn effeithiol o 1 Ebrill 2007, sef y dyddiad y daw'r Cynllun yn effeithiol. Rhoddir pŵer i roi effaith ôl-weithredol i'r Gorchymyn gan adran 34 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Mae'r diwygiadau a bennir ym mharagraffau 8(a) ac 8(c)(i) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cywiro croesgyfeiriadau.

Mae diwygiadau eraill, ac eithrio'r rhai a wneir gan baragraffau 3(b), 4(d) a 9(a)(i) a (b)(i) a (iii) o'r Atodlen, yn cywiro gwallau, gan gynnwys gwallau drwy anwaith. Mae rhai o'r diwygiadau cywiro hynny wedi achosi mewnosod rheolau neu baragraffau newydd. Yn benodol—

  • mae'r diwygiad a wneir gan baragraff 4(a) yn mewnosod paragraff (4) newydd yn rheol 2 o Ran 3 (dyfarndal yn sgil ymddeol oherwydd afiechyd) i ddarparu ar gyfer cyfrifo dyfarndaliadau oherwydd afiechyd sy'n daladwy yn achos aelod-ddiffoddwr tân sydd â hawl i ddau bensiwn yn rhinwedd rheol 7 o'r Rhan honno;

  • mae'r diwygiad a wneir gan baragraff 4(dd)(i) yn mewnosod paragraffau (8A) i (8C) newydd yn rheol 9 o Ran 3 (cymudo: cyffredinol) i ddarparu ar gyfer cymryd i ystyriaeth unrhyw gymudiad blaenorol. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod unrhyw bensiwn a chyfandaliad dilynol yn cael eu lleihau yn gyfatebol pan fo pensiwn afiechyd neu bensiwn gohiriedig a dalwyd yn gynnar yn cael ei derfynu o dan Ran 9;

  • mae'r diwygiad a wneir gan baragraff 6(c) yn mewnosod rheol 6 newydd yn Rhan 6 (rhannu pensiwn yn sgil ysgaru) sy'n caniatáu talu grant marwolaeth fel cyfandaliad pan fo farw aelod sydd â chredyd pensiwn cyn y bo unrhyw fuddion o dan y Cynllun yn daladwy. Mae'r grant i'w dalu i gynrychiolwyr personol yr aelod ymadawedig.

Mae'r diwygiadau a wneir gan baragraffau 3(b), 4(d) a 9(a)(i) a (b)(i) a (iii) o'r Atodlen yn adlewyrchu newidiadau polisi er pan gyflwynwyd y Cynllun. Mae'r rhai a wneir gan baragraffau 3(b), 4(d), yn rhannol, a 9(b)(iii) yn effeithiol o 1 Ebrill 2007. Mae'r lleill yn effeithiol o 1 Gorffennaf 2007.

Mae'r diwygiad a wneir gan baragraff 4(d) o'r Atodlen, i'r graddau y mae'n mewnosod rheol 7A newydd, a chymaint o'r rheol 7C newydd ag sy'n ymwneud â'r rheol 7A, yn Rhan 3 o'r Cynllun, yn ymwneud â therfynu, o ddiwedd Mehefin 2007 ymlaen, y cynyddiadau am wasanaeth hir a oedd yn daladwy i ddiffoddwyr tân gydag o leiaf 15 mlynedd o wasanaeth di-dor ar yr adeg honno. Roedd swm y cynyddiad, a oedd yn bensiynadwy, wedi ei rewi o 7 Tachwedd 2003 ymlaen ar gyfradd flynyddol o £990, ac yna wedi ei ostwng, o 1 Hydref 2006 ymlaen, i gyfradd flynyddol o £495 (gyda rhai taliadau interim a throsiannol). Effaith y diwygiad yw y bydd gan aelod-ddiffoddwr tân, a oedd â hawl i gynyddiad gwasanaeth hir (neu daliad digolledu interim neu drosiannol) mewn perthynas â chyfnod sy'n cynnwys 30 Mehefin 2007 ac sydd naill ai'n ymddeol neu'n dod yn un sydd â hawlogaeth ganddo i bensiwn gohiriedig ar neu ar ôl 1 Hydref 2007, yr hawl i gredyd pensiwn ychwanegol am wasanaeth hir, a gyfrifir heb ystyried y gostyngiad yn y gyfradd flynyddol.

Effaith y diwygiad cysylltiedig a wneir gan baragraff 9(b)(iii) o'r Atodlen, sy'n mewnosod rheol 2(5A) newydd yn Rhan 11 o'r Cynllun, yw y cyfrifir pensiwn aelod-ddiffoddwr tân, sydd â hawl i fuddiant pensiwn ychwanegol o dan y rheol 7A newydd o Ran 3, naill ai gan ystyried y budd pensiwn ychwanegol a gredydwyd i'r aelod-ddiffoddwr tân a heb ystyried cynyddiad gwasanaeth hir gwirioneddol yr aelod-ddiffoddwr tân (ac unrhyw daliad digolledu interim neu drosiannol), neu gan ystyried cynyddiad gwasanaeth hir gwirioneddol yr aelod-ddiffoddwr tân (ac unrhyw daliad digolledu interim neu drosiannol) a heb ystyried y swm a gredydir i'r aelod-ddiffoddwr tân o dan y rheol 7A newydd o Ran 3, yn ôl pa reol bynnag sy'n rhoi'r canlyniad mwyaf buddiol i'r diffoddwr tân.

Mae'r diwygiad a wneir gan baragraff 4(d) o'r Atodlen, i'r graddau y mae'n mewnosod rheol 7B newydd, a chymaint o'r rheol 7C newydd ag sy'n ymwneud â'r rheol 7B, yn Rhan 3 o'r Cynllun, yn ganlyniad cynllun newydd o wneud taliadau mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus a gyflwynwyd gan y Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub Awdurdodau Lleol ac a fu'n effeithiol o 1 Gorffennaf 2007. O dan y cynllun hwnnw, mae'r taliadau yn ddarostyngedig i adolygiadau blynyddol ac felly yn daliadau dros dro o ran eu natur. Am y rheswm hwnnw ni fyddent, fel arfer, yn cael eu hystyried yn bensiynadwy at ddibenion y Cynllun. Fodd bynnag, effaith y diwygiad a wneir gan baragraff 9(a)(i) yw gwneud y taliadau hyn yn rhan o'r tâl pensiynadwy. Mae hyn yn cysylltu â darpariaethau eraill, gan gynnwys darpariaethau rheol 3 o Ran 11 o'r Cynllun, sy'n gwneud talu cyfraniadau pensiwn yn ofynnol mewn perthynas â thâl pensiynadwy. Mae'r diwygiad a wneir gan baragraff 9(b)(i), fodd bynnag, yn darparu y ceir anwybyddu taliadau a wneir mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus at y diben o ddyfarnu swm y tâl pensiynadwy terfynol (y seilir swm y pensiwn cyffredin arno).

Mae'r diwygiad i reol 2(5) yn Rhan 2 o'r Cynllun, a wneir gan baragraff 3(b) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yn sicrhau na all person wneud dewisiad i atal talu cyfraniadau pensiwn mewn perthynas, yn unig, â'r budd pensiwn ychwanegol o dan y rheol 7B.

Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol a baratowyd mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn oddi wrth y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 01685 729227.