ATODLENDIWYGIO ATODLEN 1 I ORCHYMYN CYNLLUN PENSIWN Y DIFFODDWYR TÅN (CYMRU) 2007
1
Yn Rhan 1 (enwi a dehongli), yn rheol 2 (dehongli), ym mharagraff (1) yn y diffiniad o “plentyn”, yn lle “aelod o'r cynllun”, rhodder “aelod-ddiffoddwr tân, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr”.
2
Yn Rhan 2 (aelodaeth o'r cynllun, diweddu ac ymddeol), yn rheol 1 (aelodaeth o'r cynllun)—
a
ym mharagraff (1)—
i
ar ddiwedd is-baragraff (b)(i), ychwaneger y gair “a”; a
ii
hepgorer is-baragraff (b)(iii) a'r gair “a” yn union cyn yr is-baragraff hwnnw;
b
ym mharagraff (5), yn is-baragraffau (a), (b) ac (c), ar ôl “aelod-ddiffoddwr tân” mewnosoder “, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr”;
c
yn lle paragraff (6) rhodder—
6
At ddibenion paragraff (5), caiff aelod-ddiffoddwr tân, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr (y cyfeirir ato yn y paragraff hwn fel “yr aelod o'r cynllun”) enwebu person (“partner enwebedig”)—
a
sydd wedi bod yn byw gyda'r aelod o'r cynllun, mewn ffordd heblaw fel priod neu bartner sifil yr aelod o'r cynllun; a
b
ar y dyddiad y mae'r cwestiwn o statws y partner enwebedig mewn perthynas â'r aelod o'r cynllun i fod i gael ei ystyried—
i
nad yw'n briod nac yn bartner sifil i unrhyw berson arall,
ii
sydd wedi ei gofrestru gyda gweinyddydd y cynllun fel partner enwebedig yr aelod o'r cynllun,
iii
sy'n dibynnu yn ariannol ar yr aelod o'r cynllun, neu sydd, gyda'r aelod o'r cynllun, yn dibynnu'n ariannol ar ei gilydd, a
iv
sydd mewn perthynas hirdymor â'r aelod o'r cynllun,
ond y mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (8).
ch
ym mharagraff (7), yn y diffiniad o “berthynas hirdymor”—
i
yn lle “am y cyfnod o ddwy flynedd”, rhodder “am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf”; a
ii
ar ôl “aelod-ddiffoddwr tân”, mewnosoder “, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr”;
d
ym mharagraff (8), ar ôl “aelod-ddiffoddwr tân”, mewnosoder “, aelod gohiriedig neu aelod-bensiynwr”;
dd
ym mharagraff (10) yn lle “yn aelod o'r Cynllun hwn”, rhodder “yn aelod-ddiffoddwr tân o'r Cynllun hwn”.
3
Yn Rhan 2 (aelodaeth o'r cynllun, diweddu ac ymddeol)—
a
yn rheol 2 (amodau cymhwyster), ym mharagraff (1), yn lle is-baragraff (b) rhodder—
b
os oes y cyfryw daliad gwerth trosglwyddo wedi ei wneud i'r Cynllun mewn perthynas â hawliau pensiwn personol yr aelod o dan gynllun pensiwn personol, ag a fyddai'n gwneud yr aelod yn gymwys am fuddion o dan y Cynllun; neu
b
yn rheol 5 (dewis peidio â gwneud cyfraniadau pensiwn), ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
1A
Ni cheir gwneud dewisiad cyfraniadau mewn perthynas, yn unig, â chyfraniadau sy'n berthnasol i fudd pensiwn ychwanegol o dan reol 7B o Ran 3 (budd pensiwn ychwanegol: datblygiad proffesiynol parhaus).
4
Yn Rhan 3 (dyfarndaliadau personol)—
a
yn rheol 2 (dyfarndal yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd)—
i
ym mharagraff (3), ar ôl “haen uwch”, mewnosoder “a gyfrifir, yn ddarostyngedig i baragraff (4),”; a
ii
ar ôl paragraff (3), ychwaneger—
4
Swm y pensiwn afiechyd haen uwch i aelod-ddiffoddwr tân, sydd â hawlogaeth i ddau bensiwn yn rhinwedd rheol 7, yw pa un bynnag yw'r mwyaf o'r canlynol—
a
swm pensiwn afiechyd haen is yr aelod-ddiffoddwr tân (a gyfrifir yn unol â pharagraff 1 o Atodiad 1) ynghyd â'r pensiwn afiechyd haen uwch y byddai gan yr aelod-ddiffoddwr tân hawlogaeth iddo pe na bai paragraff (3) yn ddarostyngedig i'r paragraff hwn (wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff 2 neu 3 o Atodiad 1); a
b
swm y pensiwn sengl y byddai gan yr aelod-ddiffoddwr tân hawlogaeth iddo o dan baragraff (7) o reol 7,
ac at ddibenion y paragraff hwn, rhagdybir bod yr aelod-ddiffoddwr tân wedi rhoi'r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (6) o reol 7.
b
yn rheol 4 (dileu pensiwn gohiriedig), ym mharagraff (2), yn lle “y gyflogaeth” rhodder “cyflogaeth yr awdurdod”;
c
yn rheol 5 (pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod), ym mharagraff (5)(a), yn lle “pensiynadwy”, yn yr ail fan lle mae'r gair hwnnw yn ymddangos, rhodder “cyfeirio”;
ch
yn rheol 7 (yr hawlogaeth i gael dau bensiwn) ym mharagraff (4), yn lle “y diwrnod hwnnw”, rhodder “ar y diwrnod olaf o aelodaeth yr aelod o'r Cynllun”;
d
ar ôl rheol 7 mewnosoder—
Budd pensiwn ychwanegol: gwasanaeth hir7A
1
Rhaid i aelod-ddiffoddwr tân—
a
sydd â hawlogaeth, mewn perthynas â chyfnod sy'n cynnwys 30 Mehefin 2007, i gynyddiad gwasanaeth hir neu daliad interim neu drosiannol mewn cysylltiad â gwasanaeth hir, a
b
ar neu ar ôl 1 Hydref 2007—
i
sy'n ymddeol o gyflogaeth fel diffoddwr tân rheolaidd, neu
ii
sy'n dod yn un â hawlogaeth ganddo i bensiwn gohiriedig o dan reol 3,
gael ei gredydu â swm o fudd pensiwn ychwanegol.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheol 7C(5), swm y budd pensiwn ychwanegol yw hwnnw a geir drwy gymhwyso'r fformiwla—
lle mae—
A yn dynodi'r nifer o flynyddoedd (gan drin rhan o flwyddyn fel y ffracsiwn priodol) o wasanaeth pensiynadwy dros ben 15 ond nid dros ben 20, a oedd gan yr aelod hyd at a chan gynnwys 30 Mehefin 2007; a
B yn dynodi'r nifer o flynyddoedd (gan drin rhan o flwyddyn fel y ffracsiwn priodol) o wasanaeth pensiynadwy sydd gan yr aelod dros ben 20 ond nid dros ben 30.
3
Pan fo'r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer y mis Medi cyn y flwyddyn dreth berthnasol yn uwch nag ydoedd ar gyfer Medi 2007, rhaid cynyddu swm y budd pensiwn ychwanegol (fel y'i cyfrifir yn unol â pharagraff (2), a phan fo'n gymwys, â'r paragraff hwn) o'r un ganran â'r cynnydd canran yn y Mynegai Prisiau Manwerthu.
4
Rhaid i unrhyw gynnydd a wneir yn unol â pharagraff (3) gael effaith o'r dydd Llun cyntaf ymlaen yn y flwyddyn dreth berthnasol.
5
Ym mharagraff (3)—
ystyr “blwyddyn dreth” (“tax year”) yw'r cyfnod o 12 mis sy'n cychwyn ar 6 Ebrill;
ac ystyr “blwyddyn dreth berthnasol” (“relevant tax year”) yw blwyddyn dreth—
a
y cyfrifir swm buddion pensiwn aelod-ddiffoddwr tân mewn perthynas â hi at ddibenion y Cynllun hwn; a
b
nad yw'r aelod-ddiffoddwr tân, mewn perthynas â hi, yn aelod-bensiynwr nac yn aelod gohiriedig.
Buddiant pensiwn ychwanegol: datblygiad proffesiynol parhaus7B
1
Rhaid i unrhyw aelod-ddiffoddwr tân, sy'n cael taliadau DPP yn ystod unrhyw flwyddyn DPP, gan gychwyn ar 1 Gorffennaf 2007, gael ei gredydu â swm o fudd pensiwn ychwanegol mewn perthynas â'r flwyddyn honno.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheol 7C(3) a (5), rhaid dyfarnu swm y budd pensiwn ychwanegol mewn perthynas â blwyddyn DPP ar 1 Gorffennaf yn union ar ôl y flwyddyn dan sylw, yn unol â chanllawiau a thablau a ddarperir gan Actiwari'r Cynllun.
3
Pan fo'r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer y mis Medi cyn y flwyddyn dreth berthnasol yn uwch nag ydoedd ar gyfer y mis Medi yn y flwyddyn DPP dan sylw, rhaid cynyddu swm y budd pensiwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn DPP honno (fel y'i cyfrifir yn unol â pharagraff (2)) o'r un ganran â'r cynnydd canran yn y Mynegai Prisiau Manwerthu.
4
Rhaid i unrhyw gynnydd a wneir yn unol â pharagraff (3) gael effaith o'r dydd Llun cyntaf ymlaen yn y flwyddyn dreth berthnasol.
5
Yn y rheol hon—
ystyr “blwyddyn DPP” (“CPD year”) yw cyfnod o 12 mis, sy'n cychwyn ar 1 Gorffennaf, ac y mae aelod-ddiffoddwr tân yn cael taliadau DPP ynddo;
ystyr “blwyddyn dreth” (“tax year”) yw'r cyfnod o 12 mis sy'n cychwyn ar 6 Ebrill;
ystyr “blwyddyn dreth berthnasol” (“relevant tax year”) yw blwyddyn dreth—
- a
y cyfrifir swm buddion pensiwn aelod-ddiffoddwr tân mewn perthynas â hi at ddibenion y Cynllun hwn; a
- b
nad yw'r aelod-ddiffoddwr tân, mewn perthynas â hi, yn aelod-bensiynwr nac yn aelod gohiriedig;
ac y mae blwyddyn dreth yn flwyddyn dreth berthnasol mewn perthynas â blwyddyn DPP benodol os hi yw'r flwyddyn dreth pan gymerir taliadau DPP ar gyfer y flwyddyn DPP honno i ystyriaeth; ac
ystyr “taliadau DPP” (“CPD payments”), mewn perthynas â diffoddwr tân, yw taliadau a wneir i ddiffoddwr tân gan yr awdurdod sy'n cyflogi'r diffoddwr tân mewn cysylltiad â datblygiad proffesiynol parhaus y diffoddwr tân.
Buddion pensiwn ychwanegol: darpariaethau atodol7C
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae budd pensiwn ychwanegol o dan reol 7A neu 7B yn daladwy ar yr oedran ymddeol arferol.
2
Pan fo aelod-ddiffoddwr tân yn ymddiswyddo neu'n cael ei ddiswyddo neu'n gwneud dewisiad cyfraniadau, mae budd pensiwn ychwanegol yn daladwy ar yr oedran buddion arferol; a rhaid cymhwyso paragraffau (4) i (6) o reol 3 (pensiwn gohiriedig) mewn perthynas â'r budd hwnnw, fel pe bai'n bensiwn gohiriedig y mae gan yr aelod-ddiffoddwr tân hawlogaeth iddo o dan y rheol honno.
3
Pan fo'r aelod-ddiffoddwr tân yn gadael cyflogaeth yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd, mae budd pensiwn ychwanegol yr aelod-ddiffoddwr tân yn daladwy ar unwaith.
4
Pan fo'r aelod-ddiffoddwr tân yn cymryd ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod neu ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod, mae budd pensiwn ychwanegol yr aelod-ddiffoddwr tân yn daladwy yr un pryd â phensiwn yr aelod-ddiffoddwr tân o dan reol 5 (pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod), neu, yn ôl fel y digwydd, rheol 6 (pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod).
5
Pan fo paragraff (4) yn gymwys, rhaid lleihau budd pensiwn ychwanegol yr aelod-ddiffoddwr tân yn actiwaraidd, drwy gymhwyso'r ffactor lleihau actiwaraidd priodol a bennir gan Actiwari'r Cynllun, i'r swm a ddyfernir yn unol â rheol 7A neu 7B (yn ôl fel y digwydd).
6
At ddibenion rheolau 9 a 10 (cymudo), rhaid trin budd pensiwn ychwanegol fel pe bai'n bensiwn sy'n daladwy o dan y Rhan hon.
7
At ddibenion dyfarnu swm unrhyw bensiwn goroeswr o dan Ran 4 neu gredyd pensiwn o dan Ran 6, rhaid trin budd pensiwn ychwanegol fel pe bai'n bensiwn taladwy o dan y Rhan hon.
dd
yn rheol 9 (cymudo: cyffredinol)—
i
ar ôl paragraff (8), mewnosoder—
8A
Mae paragraff (8B) yn gymwys pan fo—
a
hysbysiad cymudo wedi cael effaith mewn perthynas ag—
i
pensiwn afiechyd person, a
ii
y pensiwn wedi ei atal o dan reol 2(3) o Ran 9 (canlyniadau'r adolygu); neu
b
hysbysiad cymudo wedi cael effaith mewn perthynas ag—
i
pensiwn gohiriedig person sydd wedi ei dalu cyn yr oedran buddion arferol (“y pensiwn a dalwyd yn gynnar”), a
ii
y pensiwn a dalwyd yn gynnar wedi ei atal o dan reol 2(5) o Ran 9.
8B
Os daw'r person yn un sydd â hawlogaeth ganddo i bensiwn arall, ac eithrio pensiwn anaf o dan y Cynllun Iawndal, a hawl ganddo at ddibenion y pensiwn arall hwnnw i gyfrif y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy a oedd yn gyfrifadwy at ddibenion y pensiwn afiechyd neu'r pensiwn a dalwyd yn gynnar (yn ôl fel y digwydd), rhaid lleihau'r pensiwn arall hwnnw o'r swm y byddai'r pensiwn afiechyd neu'r pensiwn a dalwyd yn gynnar wedi ei leihau pe na bai wedi ei atal.
8C
Pan fo paragraff (8B) yn gymwys, a hysbysiad cymudo wedi ei roi mewn perthynas â'r pensiwn arall, mae'r gyfran ohono y caniateir ei chymudo yn lleihau o swm y gostyngiad o dan y paragraff hwnnw.
ii
ym mharagraff (9)(b), yn lle'r geiriau o “Ran 7” hyd at y diwedd, rhodder “Ran 7A o'r Cynllun Iawndal mewn dyfarndal i berson wrth gefn.”5;
e
yn rheol 11 (dyrannu pensiwn), ym mharagraff (4), yn lle “Ran 7 o'r Cynllun Iawndal (dyfarndaliadau i filwyr, neu yn sgil eu marwolaeth)”, rhodder “Ran 7A o'r Cynllun Iawndal (dyfarndaliadau i bersonau wrth gefn, neu yn sgil eu marwolaeth)”.
5
Yn Rhan 5 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth)—
a
yn rheol 1 (grant marwolaeth)—
i
ym mharagraff (4), ar ôl “rhan-amser”, mewnosoder “, wrth gefn neu wirfoddol”;
ii
ym mharagraff (8), yn lle is-baragraff (b), rhodder—
b
sy'n marw heb dalu yn llawn y cyfraniadau sy'n ddyledus i'r awdurdod cyflogi o dan y rheol honno,
iii
ym mharagraff (9), ar ôl “swm”, mewnosoder “neu, os gwnaed taliad rhannol, y balans”; a
b
yn rheol 2 (grant marwolaeth ar ôl ymddeol), ym mharagraff (1)(b)—
i
ym mharagraff (i), ar ôl “mlynedd”, mewnosoder “(heb gynnwys unrhyw gyfandaliad y gallai'r pensiynwr fod wedi ei gael yn sgil cymudiad o dan reol 9 o Ran 3)”; a
ii
ym mharagraff (ii), yn lle “gan”, rhodder “heb” a hepgorer “neu 10”.
6
Yn Rhan 6 (rhannu pensiwn yn sgil ysgaru)—
a
yn rheol 3 (cymudo rhan o fuddion credyd pensiwn), yn lle paragraff (2), rhodder—
2
Rhaid i'r gyfran a gymudwyd beidio â bod yn fwy nag un chwarter o swm y pensiwn.
b
yn rheol 5 (grant marwolaeth ar ôl ymddeol: aelodau â chredyd pensiwn), ym mharagraff (1)(b), yn lle paragraff (ii), rhodder—
ii
y rhandaliadau pensiwn sydd wedi eu talu,
c
ar ôl rheol 5 ychwaneger—
Grantiau marwolaeth pan fo farw aelod â chredyd pensiwn cyn bo buddion credyd pensiwn yn daladwy6
1
Os bydd farw aelod â chredyd pensiwn cyn bo unrhyw fuddion sy'n deillio o bensiwn yr aelod wedi dod yn daladwy i'r aelod o dan y Cynllun hwn, rhaid talu grant marwolaeth mewn cyfandaliad i gynrychiolwyr personol yr aelod.
2
Rhaid i swm y grant fod yn hafal i luoswm 2.25 a chyfradd flynyddol y pensiwn y byddai'r aelod wedi bod â hawlogaeth i'w gael o dan reol 1(2) o'r Rhan hon.
7
Yn Rhan 7 (personau wrth gefn)—
a
yn rheol 2 (parhad cyflogaeth)—
i
ym mharagraff (2), yn lle “pensiynadwy”, rhodder “ychwanegol”;
ii
yn lle paragraff (3) rhodder—
3
At ddibenion cyfrifo swm cyfraniadau pensiwn person wrth gefn o dan reol 3 o Bennod 1 o Ran 11—
a
os oedd y person wrth gefn yn ddiffoddwr tân rheolaidd yn union cyn y cyfnod dan sylw yn y lluoedd, rhaid ystyried y tâl y byddai'r person wrth gefn wedi'i gael oddi wrth ei gyn awdurdod yn ystod ei gyfnod yn y lluoedd yn dâl y person wrth gefn am y cyfnod hwnnw (“tâl rheolaidd tybiannol” y person wrth gefn); a
b
os oedd y person wrth gefn yn ddiffoddwr tân wrth gefn neu'n ddiffoddwr tân gwirfoddol yn union cyn y cyfnod dan sylw yn y lluoedd, rhaid ystyried mai'r swm a geir drwy luosi tâl pensiynadwy cyfartalog y person wrth gefn am y cyfnod o 12 mis yn union cyn cyfnod y person wrth gefn yn y lluoedd (a fynegir fel cyfradd ddyddiol) â nifer y diwrnodau yng nghyfnod y person wrth gefn yn y lluoedd yw tâl y person wrth gefn am y cyfnod hwnnw (“tâl wrth gefn neu wirfoddol tybiannol” y person wrth gefn),
ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (4).
4
Mewn perthynas ag unrhyw gyfnod yn ystod cyfnod y person wrth gefn yn y lluoedd pan fo cyfanred—
a
tâl gwirioneddol y person wrth gefn, a
b
unrhyw daliadau y mae'r person wrth gefn yn eu cael o dan adran 4 o Ddeddf 1996,
yn llai na thâl rheolaidd tybiannol y person wrth gefn neu, yn ôl fel y digwydd, tâl wrth gefn neu wirfoddol tybiannol y person wrth gefn, am y cyfnod hwnnw a grybwyllwyd gyntaf, rhaid ymdrin â'r person wrth gefn fel un nad oes ganddo unrhyw dâl pensiynadwy (nac unrhyw atebolrwydd, felly, i wneud cyfraniadau pensiwn)6.
b
yn rheol 3 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth neu anabledd parhaol), yn lle paragraff (2) rhodder—
2
Pan fo farw person wrth gefn—
a
yn ystod cyfnod y person wrth gefn yn y lluoedd; neu
b
tra bo'n cael pensiwn o dan baragraff (1),
mae dyfarndal yn daladwy yn unol â pharagraffau (3) a (4).
8
Yn Rhan 10 (gwasanaeth cymhwysol a gwasanaeth pensiynadwy)—
a
yn rheol 1 (gwasanaeth cymhwysol), ym mharagraff (b)(iv) yn lle “reol 4(2)”, rhodder “reol 4”;
b
yn rheol 2 (cyfrif gwasanaeth pensiynadwy)—
i
ym mharagraff (1)(ch), ar ôl “afiechyd”, rhodder “haen is” a hepgorer “, ac eithrio unrhyw gyfnod sydd wedi'i gynnwys fel gwelliant,”; a
ii
ym mharagraff (6)(b), ar ôl “dan”, mewnosoder “rheol 1 o”; ac
c
yn rheol 4 (cyfrif cyfnod o absenoldeb di-dâl)—
i
ym mharagraff (1), yn lle “Rhan 11”, rhodder “Rhannau 11 a 13”; a
ii
ym mharagraff (2), yn lle “seibiant”, rhodder “absenoldeb”.
9
Yn Rhan 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol)—
a
yn rheol 1 (tâl pensiynadwy)—
i
ym mharagraff (1), yn lle'r geiriau o “ac eithrio” hyd at ddiwedd is-baragraff (a), rhodder “ac eithrio unrhyw lwfans neu enillion a delir dros dro i'r aelod-ddiffoddwr tân, heblaw taliadau mewn cysylltiad â datblygiad proffesiynol parhaus yr aelod-ddiffoddwr tân (gweler rheol 7B o Ran 3), a”; a
ii
ym mharagraff (5), yn lle “Rhagfyr” (yn y ddau le), rhodder “Medi”;
b
yn rheol 2 (tâl pensiynadwy terfynol)—
i
ar ôl paragraff (1), mewnosoder—
1A
Pan fo'r tâl pensiynadwy a gafwyd gan aelod-ddiffoddwr tân mewn perthynas â'r 365 o ddiwrnodau tâl pensiynadwy y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn cynnwys swm mewn cysylltiad â datblygiad proffesiynol parhaus yr aelod-ddiffoddwr tân (gweler rheol 7B o Ran 3), rhaid anwybyddu'r swm hwnnw at y diben o ddyfarnu tâl pensiynadwy terfynol yr aelod-ddiffoddwr tân.
ii
ym mharagraff (2)(a)(i), hepgorer y geiriau ar ôl “gyfradd uwch”;
iii
ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
5A
Rhaid i dâl pensiynadwy terfynol aelod-ddiffoddwr tân sydd—
a
â hawlogaeth i gael cynyddiad gwasanaeth hir; a
b
yn ymddeol ar ôl 30 Medi 2006 a chyn 1 Hydref 2007, neu'n dod yn un â hawlogaeth ganddo i bensiwn gohiriedig o dan reol 3 o Ran 3 o fewn y cyfnod hwnnw,
gael ei gyfrifo—
i
fel pe bai cynyddiad gwasanaeth hir yr aelod-ddiffoddwr tân wedi cronni yn ôl y gyfradd o £990 y flwyddyn (gan anwybyddu'r gostyngiad a fu'n effeithiol mewn perthynas ag adegau ar ac ar ôl 1 Hydref 2006), a
ii
gan anwybyddu unrhyw daliad perthynol i GH.
5B
Rhaid i dâl pensiynadwy terfynol aelod-ddiffoddwr tân sydd—
a
yn ymddeol neu'n dod yn un â hawlogaeth ganddo i bensiwn gohiriedig ar neu ar ôl 1 Hydref 2007, a
b
â hawlogaeth ganddo i fudd pensiwn ychwanegol o dan reol 7A o Ran 3 (budd pensiwn ychwanegol: gwasanaeth hir),
gael ei gyfrifo gan gymryd i ystyriaeth pa un bynnag o'r paragraffau canlynol sy'n rhoi'r swm mwyaf—
i
gwneud y cyfrifiad gan ystyried y swm a gredydir i'r aelod-ddiffoddwr tân o dan reol 7A o Ran 3 ond heb ystyried cynyddiad gwasanaeth hirdymor yr aelod-ddiffoddwr tân nac unrhyw daliad perthynol i GH, neu
ii
gwneud y cyfrifiad gan ystyried cynyddiad gwasanaeth hirdymor yr aelod-ddiffoddwr tân ac unrhyw daliad perthynol i GH ond heb ystyried y swm a gredydir i'r aelod-ddiffoddwr tân o dan reol 7A o Ran 3.
5C
Ym mharagraffau (5A) a (5B) ystyr “taliad perthynol i GH”(“LS-related payment”) yw taliad interim neu drosiannol sy'n gysylltiedig â gwasanaeth hir yr aelod-ddiffoddwr tân.
c
yn lle paragraff (6), rhodder—
6
Rhaid dyfarnu tâl pensiynadwy terfynol diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol drwy gyfeirio at dâl pensiynadwy terfynol diffoddwr tân rheolaidd a gyflogir mewn rôl gyffelyb ac sydd â gwasanaeth cymhwysol cyffelyb.
10
Yn Rhan 12 (trosglwyddiadau i mewn ac allan o'r Cynllun)—
a
yn rheol 4 (ceisiadau am daliadau gwerth trosglwyddo), ym mharagraff (6)(a), yn lle “gymwys i fod yn aelod-ddiffoddwr tân y”, rhodder “aelod, neu y caiff yr hawl i fod yn aelod, o'r”;
b
yn rheol 9 (y weithdrefn ar gyfer ceisiadau o dan reol 8), ym mharagraff (2)(a), hepgorer “, neu unrhyw gyfnod hwy y bydd yr awdurdod yn ei ganiatáu”;
c
yn rheol 10 (derbyn taliadau gwerth trosglwyddo), ym mharagraff (3), hepgorer is-baragraff (a);
ch
yn rheol 12 (trosglwyddo hanes pensiwn o un awdurdod Cymreig i un arall)—
i
ym mharagraff (1)—
aa
ar ddiwedd is-baragraff (a), mewnosoder “a”; a
bb
hepgorer is-baragraff (c) a'r gair “, ac” yn union o flaen yr is-baragraff hwnnw; a
ii
ar ôl “gwasanaeth pensiynadwy”, mewnosoder “a'r gwasanaeth cymhwysol”.
11
Yn Rhan 13 (Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân)—
a
yn rheol 2 (taliadau a throsglwyddiadau i mewn i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân), yn lle paragraff (5) rhodder—
5
Mewn perthynas â phob diffoddwr tân a gyflogir gan yr awdurdod, sydd yn ymddeol â hawlogaeth i gael taliad ar unwaith o bensiwn afiechyd haen is o dan reol 2 o Ran 3, rhaid i'r awdurdod drosglwyddo i mewn i'r CBDT y cyfryw swm ag y bydd Gweinidogion Cymru yn dyfarnu yw'r ffi afiechyd haen is cymwys mewn perthynas â'r pensiwn hwnnw ac yn hysbysu'r awdurdod ohono.
b
yn rheol 3 (trosglwyddiadau o Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân), yn lle paragraffau (4) a (5), rhodder—
4
Pan fo pensiwn afiechyd haen uwch, neu bensiwn afiechyd haen is person yn cael ei atal yn gyfan gwbl ac yn barhaol o dan unrhyw ddarpariaeth o Ran 9, rhaid anwybyddu paragraff (4) neu (5) o reol 2 o'r Rhan hon (yn ôl y digwydd) yn achos y person hwnnw (i'r graddau nad ydys eisoes wedi cydymffurfio â'r paragraff hwnnw); a rhaid i'r awdurdod drosglwyddo o'r CBDT i unrhyw gronfa arall a gynhelir ganddo swm sy'n hafal i gyfanred y rhandaliadau a drosglwyddwyd i'r CBDT mewn perthynas â'r pensiwn a ataliwyd
12
Yn Rhan 14 (talu dyfarndaliadau), yn rheol 1 (yr awdurdodau sy'n gyfrifol am dalu dyfarndaliadau), ym mharagraff (1), hepgorer “rheolaidd”.
13
Yn Atodiad 1 (pensiynau afiechyd), ym mharagraff 1, yn is-baragraff (2)—
a
ar ôl “person”, mewnosoder “sy'n ddiffoddwr tân wrth gefn neu'n ddiffoddwr tân gwirfoddol”; a
b
ar ôl “cyfeirio”, mewnosoder “terfynol”.