RHAN 6Ffioedd
Pŵer i godi ffi a gostyngiadau30
1
Yn ddarostyngedig i reoliadau 31 a 32, caiff Awdurdod Trwyddedau godi ffi mewn cysylltiad â phob un o'r canlynol —
a
dyroddi trwydded;
b
cais am drwydded, pan fo'r cynllun trwyddedau yn ei gwneud yn ofynnol i gael blaenawdurdodiad dros dro fel rhan o'r cais hwnnw; ac
c
pob tro y bydd amrywiad i drwydded neu i'r amodau sydd wedi'u gosod ar drwydded.
2
Mewn achos lle mae'r cynllun trwyddedau'n caniatáu i wahanol ffioedd gael eu talu am waith penodedig gwahanol, rhaid i'r cynllun nodi ystod y ffioedd y caniateir eu codi a'r meini prawf sydd i'w cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu sut i ganfod y ffi sy'n gymwys mewn achos unigol o'r ystod honno.
3
Rhaid i gynllun trwyddedau gynnwys darpariaeth ynglŷn â'r amgylchiadau y caniateir i ffioedd gael eu gostwng odanynt, a chaniateir i'r ddarpariaeth honno gynnwys —
i
y gostyngiad sy'n gymwys mewn amgylchiad penodol; neu
ii
ystod y gostyngiadau a all fod yn gymwys yn yr amgylchiad hwnnw a'r meini prawf y mae'n rhaid eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu sut i ganfod y ffi sy'n gymwys mewn achos unigol o'r ystod honno.
4
£240 yw uchafswm y ffi y caniateir ei chodi mewn cysylltiad â dyroddi trwydded.
5
£105 yw uchafswm y ffi y caniateir ei chodi mewn cysylltiad â chais am drwydded.
6
£45 yw uchafswm y ffi y caniateir ei chodi mewn cysylltiad â phob tro y mae amrywiad i drwydded neu amod a osodir ar drwydded.