RHAN 3Cynnwys Cynlluniau Trwyddedau
Strydoedd penodedig8
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, rhaid i gynllun trwyddedau bennu'r strydoedd (neu'r mathau o strydoedd) o fewn ei ardal benodedig y mae'r rheolaethau ar wneud gwaith penodedig i'w cymhwyso iddynt (a rhaid i'r strydoedd hyn fod yn “strydoedd penodedig” at ddibenion y cynllun trwyddedau hwnnw).
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff cynllun trwyddedau bennu unrhyw strydoedd, nad ydynt yn briffyrdd y gellir eu cynnal ar draul y cyhoedd, yn strydoedd y mae rheolaethau ar wneud gwaith penodedig i fod yn gymwys iddynt.
3
Caiff cynllun trwyddedau bennu stryd nad yw'n briffordd y gellir ei chynnal ar draul y cyhoedd, yn stryd y mae rheolaethau ar waith penodedig i fod yn gymwys iddi —
a
os yw'r Awdurdod Trwyddedau'n rhag-weld y daw'r stryd yn briffordd y gellir ei chynnal ar draul y cyhoedd; a
b
mae'r cynllun trwyddedau yn darparu bod y rheolaethau ar waith penodedig ddim ond yn gymwys o ran gwaith yn y stryd honno a wneir ar ôl i'r stryd ddod yn briffordd y gellir ei chynnal ar draul y cyhoedd.
4
Caiff cynllun trwyddedau bennu strydoedd yn strydoedd y mae rheolaethau ar y broses o wneud gwaith penodedig yn gymwys iddynt er nad yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y strydoedd hynny yw'r awdurdod trwyddedau.