(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gwneud taliadau i awdurdodau priffyrdd pan fydd rhai mathau o waith stryd, a gyflawnir gan ymgymerwyr ar briffyrdd y gellir eu cynnal, yn cael eu hymestyn yn afresymol.

Mae Rheoliadau 5(1) a 5(2) yn ei gwneud yn ofynnol ar ymgymerydd, wrth iddo gyflawni gwaith stryd ar briffordd y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddi yn rhinwedd Rheoliad 4, i gyflwyno “hysbysiad o gychwyniad gwirioneddol ar waith” o fewn y cyfnodau a nodwyd. Mae Rheoliad 5(3) a (4) yn pennu'r cyfnod oddi mewn i'r hwn y mae'n rhaid cyflwyno “hysbysiad o fod yn glir o waith” yn dilyn cwblhau adferiad dros dro o'r briffordd, a'r cyfnod oddi mewn i'r hwn y mae'n rhaid cyflwyno “hysbysiad o gwblhau gwaith” yn dilyn adferiad parhaol.

Mae Rheoliad 6 yn sefydlu'r “cyfnod rhagnodedig” at ddibenion adran 74(1)(a) o Ddeddf 1991, ac mae Rheoliad 7 yn pennu pa bryd y mae gwaith yn dod i ben at ddiben cyfrifo unrhyw daliadau am or-redeg.

Mae Rheoliad 8 yn pennu'r taliadau sy'n daladwy pan fo hyd gwaith stryd yn fwy na naill ai'r cyfnod rhagnodedig neu gyfnod rhesymol, pa un bynnag fo'r hwyaf, yn ddarostyngedig i rai esemptiadau. Bydd gwahanol gyfraddau dyddiol yn weithredol, gan ddibynnu ar gategori'r gwaith stryd a'r math o stryd y mae'n cael ei gyflawni arni. Pan fo gwaith adfer yn cael ei gyflawni, codir tâl am unrhyw or-redeg fel pe bai'r gwaith hwnnw yn yr un categori â'r gwaith sy'n cael ei gywiro. At y diben hwn, darperir ar gyfer trin gwaith hŷn fel gwaith sydd oddi mewn i gategorïau cyfoes gwaith stryd. Pan na fuasai hyd y gwaith wedi gor-redeg oni bai am bresenoldeb un eitem arwyddo, goleuo neu warchod, bydd y taliad a godir yn daliad sengl o £100 ar yr amod bod yr ymgymerydd yn symud yr eitem ymaith o fewn y terfyn amser penodedig yn dilyn cais gan yr awdurdod priffyrdd iddo wneud hynny. Darperir ar gyfer gostwng neu hepgor taliad mewn amryfal achosion.

Mae Rheoliadau 9 a 10, nad ydynt yn gymwys pan fo gofyn caniatâd i gyflawni gwaith stryd, yn galluogi ymgymerydd i gyflwyno i'r awdurdod priffyrdd, dan rai amgylchiadau, amcangyfrif neu amcangyfrif diwygiedig o hyd y gwaith, ac maent yn darparu bod modd cymryd bod yr hyd hwnnw wedi ei gytuno fel cyfnod rhesymol oni cheir gwrthwynebiad.

Mae Rheoliad 11 yn darparu ar gyfer rhoi taliadau mewn grym a chadw cyfrifon. Mae Rheoliad 12 yn creu trosedd o fethu â chyflwyno unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol gan y Rheoliadau.

Mae Rheoliadau 13 a 14 yn pennu ffurf unrhyw hysbysiad a'r modd y mae'n rhaid ei gyflwyno.

Mae asesiad o'r effaith y caiff yr offeryn hwn ar gostau'r sector busnes a'r sector cyhoeddus ar gael gan .