Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
2 Mehefin 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Mehefin 2009
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3 (3D), 4(2), 14(3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1998 p.30. Mae adrannau 2 i 7 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adran 9. Mewnosodwyd adran 3(3D) gan baragraff 3(5) o Atodlen 12 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32). I ganfod ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 43(1).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).