2009 Rhif 1353 (Cy.129)
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2009
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3 (3D), 4(2), 14(3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19981 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy2, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2009.
2
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2009 ac eithrio rheoliad 2(6)(b) a ddaw i rym ar 12 Hydref 2009 a rheoliad 2(5)(b) a (6)(ch) a ddaw i rym ar 26 Gorffennaf 2010.
Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 20002
1
Caiff Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 20003 eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2 mewnosoder yn y man priodol y diffiniad canlynol —
ystyr “An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu” yw'r Cyngor Addysgu a sefydlwyd o dan adran 5 o Ddeddf Cyngor Addysgu 20014 (corff y mae ganddo swyddogaethau sy'n cyfateb â rhai'r Cyngor mewn perthynas â Gweriniaeth Iwerddon);
3
Hepgorer rheoliad 4A.
4
Ar ôl rheoliad 18, mewnosoder y rheoliad canlynol —
Rhoi gwybodaeth i An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu18A
1
Pan ofynnir iddo wneud hynny, rhaid i'r Cyngor roi'r wybodaeth a geir yn Atodlen 2 mewn perthynas ag —
a
athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig; neu
b
person anghofrestredig y mae'n cadw cofnodion amdano yn unol â gorchymyn o dan adran 7(1) a (4) o Ddeddf 1998,
i An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu5.
2
Pan roddir gwybodaeth o dan baragraff (1), rhaid gosod amod yn ei gwneud yn ofynnol i An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu beidio â datgelu'r wybodaeth honno i unrhyw berson ac eithrio'r athro neu'r athrawes neu berson arall y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef neu â hi.
5
Yn Atodlen 1 —
a
ar ôl paragraff 22B mewnosoder y canlynol —
22C
Telerau unrhyw gyfyngiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i unrhyw gamau disgyblu a gymerwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon.
22D
Telerau unrhyw gyfyngiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i unrhyw gamau disgyblu a gymerwyd gan An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu.
b
ar ôl paragraff 24 ychwaneger y canlynol —
25
P'un a yw'r athro neu'r athrawes yn ddarostyngedig i gael ei fonitro neu ei monitro yn unol ag adran 24 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 20066, ac os nad yw, p'un a yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi'r gorau i'w fonitro neu i'w monitro yn unol ag adran 26 o'r Ddeddf honno.
6
Yn Atodlen 2 —
a
ym mharagraff 11A ar ôl “yr Alban” mewnosoder “, An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu,”;
b
ar ôl paragraff 12 mewnosoder y canlynol —
12A
Os yw'r person wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir ac sy'n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006), datganiad i'r perwyl hwnnw.
c
ar ôl paragraff 13B mewnosoder y canlynol —
13C
Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i unrhyw gamau disgyblu a gymerwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon.
13D
Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i unrhyw gamau disgyblu a gymerwyd gan An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu.
ch
ar ôl paragraff 14 ychwaneger y canlynol —
15
P'un a yw'r person yn ddarostyngedig i gael ei fonitro yn unol ag adran 24 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, ac os nad yw, p'un a yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi'r gorau i'w fonitro yn unol ag adran 26 o'r Ddeddf honno.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)