- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
29. Mae'n dramgwydd brechu mochyn yn erbyn clefyd pothellog y moch ac eithrio—
(a)yn unol â rheoliad 30, neu
(b)o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan Weinidogion Cymru.
30.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth brechu lle bydd yn rhaid i bob meddiannydd mangre yn y parth sy'n cynnwys mochyn sicrhau bod moch ar y fangre honno'n cael eu brechu'n unol â'r datganiad hwnnw.
(2) Bydd meddiannydd o'r fath sy'n methu â brechu mochyn yn unol â'r datganiad yn cyflawni tramgwydd.
(3) Caiff mangre sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu ei thrin fel petai y tu mewn i'r parth.
(4) Yn achos moch sydd y tu allan i barth brechu, neu os nad yw parth brechu wedi'i ddatgan, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd mangre sy'n cynnwys mochyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd hwnnw sicrhau bod pob mochyn sydd ar y fangre'n cael ei frechu yn unol â'r hysbysiad hwnnw, a bydd methu â chydymffurfio â'r hysbysiad yn dramgwydd.
31.—(1) Rhaid i berchennog mochyn sydd wedi'i frechu yn erbyn clefyd pothellog y moch sicrhau bod y mochyn wedi'i nodi'n un sydd wedi'i frechu felly.
(2) Os oedd y brechu'n ganlyniad i ddatgan parth brechu, ni chaiff neb symud mochyn sydd wedi'i frechu y tu allan i'r parth ac eithrio i ladd-dy a ddynodwyd at y diben gan Weinidogion Cymru lle bydd yn rhaid iddo gael ei gadw a'i gigydda ar wahân i foch sydd heb eu brechu.
(3) Fel arall ni chaiff neb symud mochyn sydd wedi'i frechu o'r fangre lle cafodd ei frechu (neu, os oedd y drwydded yn caniatáu brechu mewn ardal, o'r ardal lle mae brechu wedi'i ganiatáu) ac eithrio i ladd-dy a ddynodwyd at y diben gan Weinidogion Cymru lle bydd yn rhaid iddo gael ei gadw a'i gigydda ar wahân i foch sydd heb eu brechu.
(4) Mae methu â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn dramgwydd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: