RHAN 3Amau a chadarnhau bod achos o glefyd pothellog y moch
PENNOD 2Gweithredu pan amheuir bod achos o glefyd a datgan bod mangre wedi ei heintio
Amheuaeth ynghylch moch sy'n byw yn y gwyllt12
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd milfeddygol yn amau bod mochyn sy'n byw yn y gwyllt wedi ei heintio รข feirws clefyd pothellog y moch.
2
Rhaid i arolygydd milfeddygol gymryd pob cam rhesymol i gadarnhau a yw'r amheuaeth yn gywir ai peidio.
3
Pan fo'r arolygydd milfeddygol yn dod i'r casgliad bod feirws clefyd pothellog y moch yn debyg o fod yn bresennol mewn mochyn sy'n byw yn y gwyllt, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau priodol i leiafu'r risg y bydd y feirws hwnnw'n ymledu i foch domestig.