RHAN 3Amau a chadarnhau bod achos o glefyd pothellog y moch
PENNOD 2Gweithredu pan amheuir bod achos o glefyd a datgan bod mangre wedi ei heintio
Amodau ac arwyddion rhybudd13
1
Mae torri unrhyw un o'r mesurau yn Atodlen 1 yn dramgwydd.
2
Bydd y mesurau hynny'n aros yn eu lle hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru'n cyflwyno hysbysiad sy'n eu dileu i feddiannydd y fangre.
3
Pan fo arwydd rhybudd wedi'i godi o dan y Rhan hon, rhaid i feddiannydd y fangre sicrhau ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw'n briodol, a bydd methu รข gwneud hynny'n dramgwydd.
4
Mae'n dramgwydd symud ymaith arwydd rhybudd a godwyd o dan y Rhan hon ac eithrio o dan awdurdod arolygydd milfeddygol.
5
Dim ond pan fo'r mesurau yn Atodlen 1 wedi'u codi y caiff arolygydd milfeddygol awdurdodi symud ymaith yr arwyddion rhybudd.