- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
24.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru'n cadarnhau bod y fangre yn fangre heintiedig.
(2) Onid yw'r fangre wedi'i rhestru ym mharagraff (3)—
(a)rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan parth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth o amgylch y fangre heintiedig, a
(b)caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth cyfyngu ar symud.
(3) Os yw'r fangre heintiedig—
(a)yn lladd-dy,
(b)yn filfeddygfa lle daethpwyd â mochyn i'w archwilio, neu
(c)yn unrhyw le arall y daethpwyd â mochyn iddo dros dro ac nad hwnnw yw canolbwynt yr heintiad ym marn Gweinidogion Cymru,
caiff Gweinidogion Cymru (ond nid oes angen iddynt) ddatgan parth gwarchod, parth gwyliadwriaeth a pharth cyfyngu ar symud o amgylch y fangre.
(4) Rhaid bod gan y parth gwarchod radiws o dri chilometr o leiaf a bod gan y parth gwyliadwriaeth radiws o ddeg cilometr o leiaf, a rhaid bod y naill a'r llall wedi'u canoli ar y rhan o'r fangre sy'n fwyaf priodol i reoli'r clefyd ym marn Gweinidogion Cymru.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—
(a)y nodir unrhyw fangre o fewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth sy'n cynnwys moch cyn gynted â phosibl, a
(b)bod arolygydd milfeddygol yn ymweld â phob mangre o'r fath sydd o fewn parth gwarchod cyn gynted â phosibl a'i fod—
(i)yn arolygu ac, yn ôl yr angen, yn archwilio'r moch, a
(ii)yn casglu ac yn profi unrhyw samplau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol.
(6) Mae Atodlen 2 yn nodi'r mesurau sy'n gymwys mewn parthau gwarchod a pharthau gwyliadwriaeth, ac mae torri unrhyw un o'r mesurau hynny'n dramgwydd.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan bod unrhyw fesur arall, sy'n angenrheidiol i atal, cyhyd â'i bod yn rhesymol ymarferol, feirws clefyd pothellog y moch rhag ymledu, yn gymwys i'r cyfan neu i unrhyw ran o unrhyw barth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth.
(8) Mae mangre—
(a)sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth gwarchod i'w thrin fel petai y tu mewn iddo;
(b)sy'n rhannol y tu mewn i barth gwyliadwriaeth ac yn rhannol mewn ardal nad yw'n barth gwarchod i'w thrin fel petai y tu mewn i'r parth gwyliadwriaeth;
(c)sy'n rhannol y tu mewn i barth cyfyngu ar symud ac yn rhannol mewn ardal nad yw'n barth gwyliadwriaeth i'w thrin fel petai y tu mewn i'r parth cyfyngu ar symud.
(9) Pan fo Gweinidogion Cymru'n datgan diwedd unrhyw barth gwarchod, daw'r ardal a ffurfiodd y parth gwarchod hwnnw'n rhan o'r parth gwyliadwriaeth.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: