Enwi a chychwyn1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009.

2

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2009.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11(2) o'r Ddeddf2;

  • ystyr “Byrddau Iechyd Lleol blaenorol” (“former Local Health Boards”) yw'r ddau Fwrdd Iechyd Lleol ar hugain a sefydlwyd ar 10 Chwefror 2003 gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 20033;

  • ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 19894;

  • ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw 1 Hydref 2009;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “gofal parhaus” (“continuing care”) yw gofal a ddarperir dros gyfnod estynedig o amser i berson er mwyn bodloni anghenion iechyd corfforol neu feddyliol sydd wedi digwydd o ganlyniad i salwch;

  • mae'r ymadrodd “Gorchymyn BILl” i'w ddehongli'n unol â'r ymadrodd “LHB Order” yn adran 11(2) o'r Ddeddf;

  • mae i'r ymadrodd “gwasanaethau deintyddol sylfaenol” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “primary dental services” yn adran 56 o'r Ddeddf;

  • mae i'r ymadrodd “gwasanaethau fferyllol” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “pharmaceutical services” yn adran 80(8) o'r Ddeddf;

  • mae i'r ymadrodd “gwasanaethau meddygol sylfaenol” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “primary medical services” yn adran 41 o'r Ddeddf; ac

  • mae i'r ymadrodd “gwasanaethau offthalmig cyffredinol” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “general ophthalmic services” yn adran 71(10) o'r Ddeddf.

2

At ddibenion y Rheoliadau hyn, ac yn ddarostyngedig i reoliad 3, y personau sy'n preswylio fel arfer yn yr ardal y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei sefydlu ar ei chyfer yw'r personau y mae Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol amdanynt mewn unrhyw flwyddyn.

3

Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd y gall Gweinidogion Cymru ei roi o ran unrhyw achos penodol neu ddosbarthau o achos, os oes amheuaeth o ran ble y mae person yn preswylio fel arfer at ddibenion paragraff (2) —

a

mae'r person i'w drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y cyfeiriad a roddwyd ganddo, yn gyfeiriad y mae'r person fel arfer yn preswylio ynddo, i'r person neu'r corff sy'n darparu gwasanaethau ar ei gyfer;

b

os nad yw'r person yn rhoi unrhyw gyfeiriad o'r fath, mae ef i'w drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y cyfeiriad y mae'n ei roi, yn gyfeiriad mwyaf diweddar y person, i'r person neu'r corff sy'n darparu gwasanaethau ar ei gyfer;

c

os na ellir cadarnhau cyfeiriad arferol y person o dan is-baragraffau (a) a (b) uchod, mae ef i gael ei drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn yr ardal y mae'r person yn bresennol ynddi.

Eithriad i reoliad 2(2)3

1

Mae Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol yn parhau i fod yn gyfrifol am y personau a bennir ym mharagraff (3) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn yr ardal y sefydlwyd ef ar ei chyfer, yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (2).

2

Dyma'r amgylchiadau—

a

ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2007

i

bod y Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol wedi gwneud trefniant wrth arfer ei swyddogaethau, neu

ii

bod awdurdod lleol wedi gwneud trefniant

y darperir gwasanaethau, yn rhinwedd y trefniant hwnnw, ar gyfer person y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, sy'n golygu neu'n cynnwys darparu llety sydd wedi ei leoli yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol arall neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol; a

b

bod y person drwy hynny'n byw yn y llety.

3

Mae'r paragraff hwn yn gymwys

a

i berson sydd o dan 18 oed ac

i

sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22(1) o Ddeddf 1989,

ii

sy'n blentyn perthnasol o fewn ystyr adran 23A o Ddeddf 1989,

iii

sy'n gymwys i gael cyngor a chymorth o dan adran 24(1A) neu adran 24(1B) o Ddeddf 1989,

iv

sydd wedi ei leoli mewn ysgol yn unol â datganiad o anghenion addysgol arbennig a wnaed o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 19965 ac sy'n enwi'r ysgol, neu

v

y mae arno angen llety er mwyn bodloni anghenion gofal parhaus; a

b

i berson o dan 21 oed a oedd, yn union cyn ei ben-blwydd yn ddeunaw oed, yn berson a oedd yn dod o fewn un o is-gategorïau is-baragraff (a).

4

Nid yw cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol o dan y rheoliad hwn yn ymestyn i'w swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol sylfaenol, gwasanaethau fferyllol a gwasanaethau offthalmig cyffredinol.

5

Yn y rheoliad hwn ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol gwreiddiol” (“Local Health Board of origin”) yw'r Bwrdd Iechyd Lleol a wnaeth y trefniant o dan is-baragraff (2)(a)(i) neu'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cyfateb i ardal ddaearyddol yr awdurdod lleol a wnaeth y trefniant o dan is-baragraff (2)(a)(ii).

Swyddogaethau i'w harfer gan Fyrddau Iechyd Lleol4

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 5, ac yn ddarostyngedig i unrhyw waharddiadau neu gyfyngiadau mewn Gorchymyn BILl, y swyddogaethau i'w harfer gan Fwrdd Iechyd Lleol o'r dyddiad perthnasol yw:

a

swyddogaethau Awdurdodau Iechyd blaenorol yng Nghymru a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 20036 ac y cyfarwyddwyd Byrddau Iechyd Lleol blaenorol gan Reoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 20037 i'w harfer ar 1 Ebrill 2003; a

b

swyddogaethau Gweinidogion Cymru, i'r graddau nad ydynt yn swyddogaethau o dan is-baragraff (a), fel a bennir yn yr Atodlen.

2

Mae'r swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) yn benodol yn cynnwys y cyfryw swyddogaethau ag a bennir yn yr Atodlen ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt.

Cyfyngu ar arfer swyddogaethau gan Fyrddau Iechyd Lleol5

Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn i'w gymryd fel pe bai'n rhoi cyfarwyddiadau ynghylch arfer unrhyw swyddogaethau a roddwyd i Weinidogion Cymru neu a freiniwyd ynddynt mewn cysylltiad ag —

a

gwneud unrhyw Orchymyn neu Reoliadau; neu

b

rhoi unrhyw gyfarwyddiadau.

Dirymiadau6

Dirymir y Rheoliadau a ganlyn —

Diwygiadau canlyniadol7

Gwneir y diwygiadau canlyniadol a ganlyn—

a

ym mharagraff 16 o Ran 2 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 20068

i

yn lle “Local Health Boards (Functions) (Wales) Regulations 2003” rhodder “Local Health Boards (Directed Functions) (Wales) Regulations 2009”,

ii

yn is-baragraff (c) yn lle “3(1)” rhodder “4”,

iii

dileer is-baragraff (d); a

b

yn y Cyfarwyddiadau i Fwrdd Iechyd Lleol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe a Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy (2006) a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2006, yng nghyfarwyddyd 2(1) yn lle “Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009”.

Edwina HartY Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru