YR ATODLENDeddfiadau sy'n rhoi Swyddogaethau sy'n Arferadwy gan Fyrddau Iechyd Lleol

Rheoliad 4

(1)

(2)

DEDDFIAD

CYNNWYS

Deddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus 1968 (p.46)

adran 63(1), (5) a (6)

Darparu ar gyfer hyfforddi swyddogion Byrddau Iechyd Lleol a phersonau eraill a gyflogir neu sy'n arfaethu cael eu cyflogi mewn gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag iechyd neu les.

adran 64(1)

Rhoi cymorth ariannol i gyrff gwirfoddol

Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (p.44)

adran 17

Darpariaethau mewn cysylltiad â gwahanu cleifion iau oddi wrth gleifion hŷn yn yr ysbyty.

Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20)

adran 12(2)

Cymeradwyo ymarferwyr meddygol am fod ganddynt brofiad arbennig mewn gwneud diagnosis o neu drin anhwylder meddyliol.

Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 (p.48)

adran 48

Gwneud deunydd hawlfraint sydd ar gael i'r cyhoedd.

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19)

adran 18

Pennu symiau dangosol costau cyffuriau a meddyginiaethau.

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43)

adran 45

Rhoi a chadw yn eu lle drefniadau at ddibenion monitro ansawdd gofal iechyd a'i wella.

adran 47(4)

Cymryd i ystyriaeth y safonau a geir mewn datganiadau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42)

adran 1

Darparu gwasanaethau yn unol â'r Ddeddf neu sicrhau eu bod yn cael eu darparu.

adran 2

Darparu gwasanaethau yr ystyrir eu bod yn briodol ar gyfer cyflawni dyletswyddau a osodir ar Weinidogion Cymru a gwneud unrhyw beth arall a fwriedir i hwyluso cyflawni'r cyfryw ddyletswyddau.

adran 3(1)(a) a (b)

Darparu llety mewn ysbyty a llety arall.

adran 3(1)(c)

Darparu gwasanaethau meddygol, deintyddol ac offthalmig, a gwasanaethau nyrsio ac ambiwlans.

adran 3(1)(d)

Darparu gwasanaethau neu gyfleusterau ar gyfer gofalu am ferched beichiog, merched sy'n bwydo ar y fron a phlant ifanc.

adran 3(1)(e)

Darparu gwasanaethau neu gyfleusterau ar gyfer atal salwch, gofalu am bersonau sy'n dioddef o salwch ac am ôl-ofal personau sydd wedi dioddef o salwch.

adran 3(1)(f)

Darparu gwasanaethau neu gyfleusterau eraill y mae eu hangen ar gyfer gwneud diagnosis o salwch a'i drin.

adran 4

Darparu gwasanaethau seiciatryddol tra diogel.

adran 5 a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 1

Darparu ar gyfer gwneud ymchwiliad meddygol ar ddisgyblion a'u trin.

adran 5 a pharagraff 8 o Atodlen 1

Trefnu ar gyfer rhoi cyngor ar atal cenhedlu, ar gyfer gwneud ymchwiliad meddygol ar bersonau sy'n gofyn am y cyfryw gyngor, ar gyfer trin y cyfryw bersonau ac ar gyfer cyflenwi sylweddau a dyfeisiau atal cenhedlu.

adran 5 a pharagraffau 9 a 10 o Atodlen 1

Darparu cerbydau (gan gynnwys cadeiriau olwyn) ar gyfer personau anabl.

adran 5 a pharagraff 12 o Atodlen 1

Darparu gwasanaeth microbiolegol ar gyfer rheoli lledaeniad clefydau heintus.

adran 5 a pharagraff 13 o Atodlen 1

Cynnal neu gynorthwyo personau, drwy gyfrwng grantiau neu fel arall, i ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â salwch neu faterion eraill sy'n gysylltiedig â gwasanaeth a ddarperir o dan y Ddeddf.

adran 6

Darparu gwasanaethau y tu allan i Gymru.

adran 10(1) a (2)

Trefnu gydag unrhyw berson neu gorff (gan gynnwys corff gwirfoddol) i'r person neu'r corff hwnnw ddarparu neu gynorthwyo i ddarparu unrhyw wasanaeth o dan y Ddeddf.

adran 10(3) a (4)

Sicrhau bod cyfleusterau a gwasanaethau personau a gyflogir mewn cysylltiad â'r cyfryw gyfleusterau ar gael i bersonau neu gyrff penodol (gan gynnwys cyrff gwirfoddol).

adran 10(5)

Cytuno telerau a thaliadau mewn cysylltiad â threfniadau a wneir o dan adran 10 o'r Ddeddf.

adran 14(1)

Cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau meddygol sylfaenol a gwasanaethau deintyddol sylfaenol.

adran 15

Gweinyddu a rheoli gwasanaethau mewn perthynas â gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol sylfaenol, gwasanaethau offthalmig cyffredinol a gwasanaethau fferyllol.

adran 17

Paratoi ac adolygu cynlluniau ar gyfer gwella iechyd pobl y mae'n gyfrifol amdanynt a darparu gofal iechyd ar gyfer y cyfryw bersonau.

adran 38(1)—(4)

Cyflenwi nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau eraill i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill a gwneud gwaith cynnal a chadw mewn cysylltiad ag unrhyw dir neu adeilad y mae awdurdod lleol yn gyfrifol am ei gynnal.

adran 38(5)

Cyflenwi nwyddau, deunyddiau neu gyfleusterau eraill a ragnodir i bersonau sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol, gwasanaethau deintyddol sylfaenol, gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu wasanaethau fferyllol.

adran 38(6)

Sicrhau bod unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau eraill ar gael i awdurdodau lleol ynghyd â gwasanaethau personau a gyflogir a ddarperir fel rhan o'r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau unrhyw ymarferydd meddygol neu ddeintyddol neu nyrs a gyflogir am resymau ac eithrio i ddarparu gwasanaethau sy'n rhan o'r gwasanaeth iechyd er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol, addysg ac iechyd cyhoeddus.

adran 38(7)

Sicrhau bod gwasanaethau ymarferwyr ar gael i awdurdodau lleol er mwyn galluogi'r cyfryw awdurdodau i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol, addysg ac iechyd cyhoeddus.

adran 39(1) a (2)

Darparu ar gyfer ymgynghori cyn sicrhau bod gwasanaethau unrhyw swyddog ar gael i awdurdod lleol.

adran 39(4) a (5)

Cytuno telerau gwasanaethau a chyfleusterau a ddarperir o dan adran 38 o'r Ddeddf a'r ffioedd amdanynt.

adran 39(6)

Pŵer pan gyflenwir nwyddau neu ddeunyddiau i'w prynu a'u storio a threfnu ar gyfer cyflenwi nwyddau neu ddeunyddiau gan drydydd partïon.

adran 41(1) — (4)

Darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol.

adran 42

Gwneud contractau y darperir gwasanaethau meddygol sylfaenol oddi tanynt.

adran 44

Gwneud contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol gyda phersonau cymwys.

adran 50(1)—(5) sylfaenol.

Trefnu ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol

adran 51(1)

Gwneud trefniadau gyda phersonau cymwys o dan adran 50.

adran 53

Darparu cymorth a chefnogaeth mewn perthynas â gwasanaethau meddygol sylfaenol.

adran 54(1) a (9)

Cydnabod Pwyllgorau Meddygol Lleol a dyrannu symiau o arian i Bwyllgorau.

adran 55

Sicrhau bod llety ar gael i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â gwasanaethau meddygol sylfaenol.

adran 56(1)—(4)

Darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol.

adran 57

Gwneud contractau gwasanaethau deintyddol cyffredinol.

adran 59

Gwneud contractau gwasanaethau deintyddol cyffredinol gyda phersonau cymwys.

adran 64(1)—(5)

Trefnu ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol.

adran 65(1)

Gwneud trefniadau gyda phersonau cymwys o dan adran 64.

adran 67(1) a (3)

Swyddogaethau mewn perthynas ag iechyd cyhoeddus deintyddol.

adran 68(1) a (2)

Darparu cymorth a chefnogaeth i unrhyw berson sy'n darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol.

adran 69(1) a (9)

Cydnabod Pwyllgorau Deintyddol Lleol a dyrannu symiau o arian i Bwyllgorau.

adran 70

Sicrhau bod llety ar gael i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â gwasanaethau deintyddol sylfaenol.

adran 71(1)

Trefnu gwasanaethau offthalmig cyffredinol.

adran 75

Pan awdurdodir hynny, gwneud trefniadau eraill mewn perthynas â gwasanaethau offthalmig.

adran 78(1), (7), (8) a (9)

Cydnabod Pwyllgorau Optegol Lleol a dyrannu symiau o arian i Bwyllgorau.

adran 79

Sicrhau bod llety ar gael i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol.

adran 80 (1), (3) a (6)

Trefnu ar gyfer gwasanaethau fferyllol.

adran 82

Darparu a chyhoeddi manylion trefniadau mewn perthynas â gwasanaethau fferyllol ychwanegol.

adran 87

Pan awdurdodir hynny, gwneud trefniadau eraill mewn perthynas â gwasanaethau fferyllol.

adran 90(1), (7), (8) a (9)

Cydnabod Pwyllgorau Fferyllol Lleol a dyrannu symiau o arian i Bwyllgorau.

adran 91

Sicrhau bod llety ar gael i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau fferyllol.

adran 92

Sefydlu cynlluniau peilot.

adran 93 a pharagraffau 1,2,3,4,5 a 7 o Atodlen 6

Gwneud cynlluniau peilot.

adran 107

Datgymhwyso ymarferwyr rhag cael eu cynnwys ar restr offthalmig neu fferyllol.

adran 108

Dileu ymarferwyr yn amodol.

adran 110(1), (3), (4), (5), (6) ac (8)

Atal ymarferwyr dros dro.

adran 111

Atal ymarferwyr dros dro hyd oni chynhelir apêl.

adran 113(1) a (3)

Adolygu penderfyniadau.

adran 114(5) a (6)

Gwneud cais am amrywio ymarferwyr ar restri, am eu gorfodi ar restri ac am eu dileu'n amodol oddi ar restri.

adran 115(4),(5) a (6)

Gwneud cais am ddatgymhwysiad cenedlaethol.

adran 137

Awdurdodi defnyddio llety mewn ysbytai, penderfynu i ba raddau y mae i fod ar gael a phenderfynu ac adennill ffioedd mewn cysylltiad â defnyddio llety o'r fath.

adran 138

Adennill treuliau sy'n daladwy gan gleifion a gyflogir.

adran 159

Caffael tir neu eiddo arall y mae ei angen at ddibenion y Ddeddf a defnyddio neu gynnal a chadw unrhyw eiddo yn rhinwedd y Ddeddf.

adran 163(2)(b)

Bod yn gorff sy'n gyfrifol am ysbyty.

adran 166

Defnyddio unrhyw eiddo a freinir yng Ngweinidogion Cymru.

adran 183

Cynnwys y cyhoedd ac ymgynghori ynghylch cynllunio gwasanaethau a'u rhoi ar waith.

adran 197

Sicrhau bod cyfleusterau ar gael ar gyfer addysgu ac ymchwilio clinigol mewn cysylltiad â meddygaeth neu ddeintyddiaeth glinigol.

adran 198

Sicrhau bod llety neu gyfleusterau gwasanaeth iechyd ar gael at ddiben darparu gwasanaethau meddygol, deintyddol, fferyllol, offthalmig neu drin traed ar gael i gleifion preifat nad ydynt yn gleifion preswyl.

adran 200(2), (4), (6), (7), (9) a (10)

Derbyn a chofrestru gwybodaeth mewn perthynas â genedigaethau a marwolaethau.