Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009
2009 Rhif 1551 (Cy.151)
GARDDWRIAETH, CYMRU

Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi1.
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi2 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at ddarpariaethau offerynnau'r Gymuned gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau hyn fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, sy'n sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n gosod gweithdrefnau ym materion diogelwch bwyd3.

Yn unol â hynny, mae Gweinidog Cymru dros Faterion Gwledig yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.