- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Os yw'r Asiantaeth a'r gweithredydd yn methu â chytuno ar fater a bennir yn is-baragraff (1)(a) o baragraff 4, rhaid i'r Asiantaeth benderfynu ar y mater a hysbysu'r gweithredydd o'r penderfyniad hwnnw.
(2) Caiff gweithredydd nad yw'n cytuno â phenderfyniad a wnaed gan yr Asiantaeth yn unol ag is-baragraff (1), o fewn 3 wythnos ar ôl i'r Asiantaeth ei hysbysu o dan yr is-baragraff hwnnw, ofyn am i'r penderfyniad gael ei adolygu gan yr Asiantaeth.
(3) Os bydd gweithredydd yn gwneud cais o dan is-baragraff (2) ac yn talu'r Asiantaeth y swm o £250 ar ffurf cyfraniad tuag at y costau a dynnir gan yr Asiantaeth mewn cysylltiad â'r adolygiad, rhaid i'r Asiantaeth adolygu'r penderfyniad o dan sylw a hysbysu'r gweithredydd o'i phenderfyniad.
(4) Os bydd yr Asiantaeth yn penderfynu, yn unol ag is-baragraff (3), bod penderfyniad a wnaed ganddi yn unol ag is-baragraff (1) yn anghywir, rhaid iddi ad-dalu i'r gweithredydd y taliad a wnaed gan y gweithredydd yn unol ag is-baragraff (3).
(5) Os—
(a)bydd yr Asiantaeth, yn sgil adolygiad a gynhelir yn unol ag is-baragraff (3), yn penderfynu bod ei phenderfyniad yn gywir; a
(b)bydd y gweithredydd wedi cydymffurfio â'r hawliad mwyaf diweddar a wnaed gan yr Asiantaeth yn unol â pharagraff 3,
caiff y gweithredydd ofyn am i'r mater sy'n destun y penderfyniad hwnnw gael ei benderfynu gan berson a enwebir i'r pwrpas yn unol ag is-baragraff (7)(a).
(6) Rhaid i gais o dan is-baragraff (5) gael ei wneud o fewn 1 wythnos ar ôl i'r Asiantaeth hysbysu'r gweithredydd o dan is-baragraff (3).
(7) Os bydd gweithredydd yn gwneud cais o dan is-baragraff (5) —
(a)rhaid i'r Asiantaeth enwebu person i benderfynu ar y mater ar sail y rhestr a luniwyd o dan is-baragraff (8); a
(b)o fewn 1 mis ar ôl cael ei enwebu—
(i)rhaid i'r person a enwebwyd felly roi cyfle i'r gweithredydd ac i'r Asiantaeth i wneud cynrychioliadau ar y mater sydd i'w benderfynu,
(ii)rhaid i'r person a enwebwyd felly benderfynu ar y mater o dan sylw,
(iii)caiff y person a enwebwyd felly wneud y cyfryw orchymyn o ran y costau a dynnwyd gan y gweithredydd a'r Asiantaeth ag y mae o'r farn ei fod yn briodol, a
(iv)rhaid i'r person a enwebwyd felly hysbysu'r gweithredydd a'r Asiantaeth o'i benderfyniad ac o unrhyw orchymyn o'r fath.
(8) Rhaid i'r Asiantaeth lunio a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwebu at ddibenion y paragraff hwn ac ymgynghori â'r sefydliadau hynny yr ymddengys eu bod yn cynrychioli gweithredwyr cyn cynnwys unrhyw berson ar y rhestr.
(9) Os, yn unol ag is-baragraff (7)(b)(ii), bydd person a enwebwyd yn unol ag is-baragraff (7)(a) yn penderfynu bod penderfyniad a wnaed gan yr Asiantaeth yn unol ag is-baragraff (3) yn anghywir, rhaid i'r Asiantaeth ad-dalu i'r gweithredydd y taliad a wnaed gan y gweithredydd yn unol ag is-baragraff (3).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: