Dehongli
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “a arbelydrir”, “a arbelydrwyd”, “arbelydrwyd”, “cael ei arbelydru” ac “wedi'i arbelydru” (“irradiated”) yw cael ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio, a rhaid dehongli ymadroddion tebyg yn unol â hynny;
mae “a gymeradwywyd”, “wedi'i gymeradwyo” ac “wedi'u cymeradwyo” (“approved”) yn cynnwys “trwyddedig” ac “wedi'i drwyddedu” (“licensed”);
ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
mae “cymeradwyaeth” (“approval”) yn cynnwys trwydded;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu, cynnig, arddangos a hysbysebu i werthu, a rhaid dehongli “gwerthu” (“sale”) yn unol â hynny;
ystyr “mewnforio” (“import”) yw cyflwyno o Aelod-wladwriaeth arall neu o wlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd;
ystyr “Rhif cyfeirnod swyddogol” (“official reference number”) mewn perthynas â chyfleuster mewn Aelod-wladwriaeth yw'r Rhif cyfeirnod a ddyrennir gan yr Aelod-wladwriaeth mewn cysylltiad â chael ei gymeradwyo fel cyfleuster arbelydru (sef y Rhif a ddangosir ar ei gyfer yn y rhestr yn Atodlen 3);
ystyr “trwydded” (“licence”), ac eithrio yn rheoliad 7(a)(ii)(bb), yw trwydded a roddir gan yr Asiantaeth yn unol ag Atodlen 2 i berson ac i gyfleuster i arbelydru bwyd a rhaid dehongli “ei drwyddedu”, “trwyddedig” ac “wedi'i drwyddedu” (“licensed”) a “trwyddedai” (“licensee”) yn unol â hynny;
ystyr “ymbelydredd ïoneiddio” (“ionising radiation”) yw unrhyw belydrau gama, pelydrau-X neu ymbelydriadau corffilaidd sy'n gallu cynhyrchu ïonau naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “bwyd a arbelydrwyd yn briodol” (“properly irradiated food”) yw bwyd—
(i)a oedd naill ai wedi'i arbelydru ar ei ben ei hun neu fel rhan o swp bwyd yr oedd pob eitem ynddo yn fwyd a oedd yn dod o fewn yr un categori bwyd a ganiatawyd; a
(ii)na chafodd ei arbelydru'n ormodol,
ac mae'n rhaid dehongli “arbelydru priodol” (“proper irradiation”) yn unol â hynny;
(b)bwyd sy'n dod o fewn categori a ganiateir o ran bwyd, pan fo dim llai na 98 y cant ohono yn ôl pwysau (gan hepgor pwysau unrhyw ddŵr a ychwanegwyd) yn dod o fewn y categori hwnnw, ac ystyr “eitem” (“item”), mewn perthynas â swp bwyd, yw pob eitem yn y swp hwnnw sydd wedi'i bwriadu i fod yn eitem y gellir ei gwerthu bob yn un;
(c)y categorïau bwyd a ganiateir yw—
(i)ffrwythau;
(ii)llysiau;
(iii)grawnfwydydd;
(iv)bylbiau a chloron;
(v)perlysiau, sbeisys a sesnadau llysieuol aromatig wedi'u sychu;
(vi)pysgod a physgod cregyn; a
(vii)dofednod;
(ch)yn y categorïau bwyd a ganiateir—
(i)mae “ffrwythau” (“fruit”) yn cynnwys ffyngau, tomatos a rhiwbob ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;
(ii)nid yw'r term “llysiau” (“vegetables”) yn cynnwys ffrwythau, grawnfwydydd, bylbiau a chloron, na pherlysiau, sbeisys a sesnadau llysieuol aromatig wedi'u sychu ond mae'n cynnwys corbys;
(iii)ystyr “bylbiau a chloron” (“bulbs and tubers”) yw tatws, iamau, winwns, sialóts a garlleg;
(iv)mae “pysgod a physgod cregyn” (“fish and shellfish”) yn cynnwys llyswennod, cramenogion a molysgiaid ond heb fod yn gyfyngedig iddynt; a
(v)ystyr “dofednod” (“poultry”) yw ffowls domestig, gwyddau, hwyaid, ieir gini, colomennod, soflieir a thyrcwn;
(d)mae bwyd wedi'i arbelydru'n ormodol naill ai pan fo'r dogn cyfartalog cyffredinol o ymbelydredd ïoneiddio a amsugnwyd ganddo, o'i fesur yn unol ag Atodlen 1, yn fwy na, yn achos—
(i)ffrwythau, 2 kGy;
(ii)llysiau, 1 kGy;
(iii)grawnfwydydd, 1 kGy;
(iv)bylbiau a chloron, 0.2 kGy;
(v)perlysiau, sbeisys a sesnadau llysieuol aromatig wedi'u sychu, 10 kGy;
(vi)pysgod a physgod cregyn, 3 kGy; neu
(vii)dofednod, 7 kGy,
neu pan fo un o'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (3) yn gymwys.
(3) Yr amgylchiadau yw bod y dogn uchaf o ymbelydredd ïoneiddio a amsugnwyd gan y bwyd, neu gan unrhyw fwyd yn yr un swp, o'i fesur yn unol ag Atodlen 1—
(a)yn fwy na theirgwaith y dogn isaf a amsugnwyd ganddo; neu
(b)yn fwy nag 1.5 gwaith y dogn cyfartalog cyffredinol a bennir ar gyfer y bwyd ym mharagraff (2)(d).