ATODLEN 2TRWYDDEDAU

RHAN 3Y Gofynion a'r Gwaharddiadau sydd i'w Dilyn gan Drwyddedai

I111

Rhaid i bob trwyddedai anfon at yr Asiantaeth erbyn diwrnod olaf Chwefror bob blwyddyn ddatganiad ysgrifenedig ar gyfer y flwyddyn galendr ddiwethaf sy'n cynnwys—

a

enw'r trwyddedai;

b

Rhif trwydded y trwyddedai;

c

y flwyddyn y mae'r datganiad yn ymwneud â hi;

ch

disgrifiad o bob bwyd y mae'r trwyddedai wedi'i arbelydru yn ystod y flwyddyn; a

d

maint pob bwyd o'r fath, yn ôl cyfaint neu bwysau.