1. Yn ddarostyngedig i baragraff 2, caiff yr Asiantaeth, ar gais y trwyddedai neu gyda'i gydsyniad, amrywio unrhyw un o amodau'r drwydded.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 Rhn. 4 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i'r Asiantaeth beidio â chytuno i amrywiad a fyddai'n caniatáu unrhyw weithred neu anwaith y byddai cynnig amdani neu amdano, petai wedi'i wneud yn y cais am drwydded, wedi peri i'r Asiantaeth wrthod rhoi trwydded o dan baragraff 2 o Ran 1.LL+C
(2) At ddibenion is-baragraff (1), rhaid i'r Asiantaeth, wrth ystyried a ddylai amrywio trwydded, drin pob gwybodaeth wyddonol a fydd ganddi bryd hynny fel petai wedi'i chael pan roddodd y drwydded.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 Rhn. 4 para. 2 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)