1. Os yw'r Asiantaeth yn credu bod amgylchiadau'n bodoli y byddai, petai wedi'u rhag-weld (a phetai wedi meddu ar yr un wybodaeth wyddonol ag sydd ganddi ar hyn o bryd) bryd hynny, wedi gwrthod, o dan baragraff 2 o Ran 1, roi'r drwydded odanynt, caiff rhoi hysbysiad i'r trwyddedai—LL+C
(a)yn esbonio pam y byddai wedi gwrthod rhoi'r drwydded; a
(b)yn hysbysu'r trwyddedai, oni fydd y trwyddedai'n wedi'i darbwyllo mewn ysgrifen i beidio â gwneud hynny o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl anfon yr hysbysiad, neu unrhyw gyfnod hwy y bydd yn ei ganiatáu, y bydd yn canslo'r drwydded.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 Rhn. 5 para. 1 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
2. Os na fydd yr Asiantaeth, erbyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau neu unrhyw gyfnod hwy a ganiatawyd o dan baragraff 1(b) wedi'i darbwyllo i'r gwrthwyneb, rhaid iddi hysbysu'r trwyddedai mewn ysgrifen bod y drwydded wedi'i chanslo o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad a rhaid iddi ddatgan yn yr hysbysiad pam nad yw wedi'i darbwyllo felly; ond os yw wedi'i darbwyllo felly, rhaid iddi hysbysu'r trwyddedai o hynny.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 Rhn. 5 para. 2 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
3. Os caiff y drwydded ei chanslo, mae ei heffaith i beidio ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 Rhn. 5 para. 3 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)
4.—(1) Os yw'r Asiantaeth o'r farn bod, neu y gall fod, risg niwed i iechyd oni chaiff y drwydded ei hatal, caiff roi hysbysiad ysgrifenedig i'r trwyddedai yn atal y drwydded o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad ac, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), ni fydd unrhyw effaith i'r drwydded at ddibenion y Rheoliadau hyn o'r dyddiad hwnnw.LL+C
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), pan roddir hysbysiad yn atal y drwydded—
(a)mae effaith yr ataliad i beidio ar ddiwedd y cyfnod o dri diwrnod ar ôl rhoi hysbysiad o'r ataliad oni bai bod hysbysiad wedi'i roi yn y cyfamser i'r trwyddedai o dan baragraff 1; ond
(b)os yw hysbysiad wedi'i roi yn y cyfamser i'r trwyddedai o dan baragraff 1, mae'r ataliad i barhau hyd nes y bydd y naill neu'r llall o'r canlynol yn digwydd—
(i)bod yr Asiantaeth yn cael ei darbwyllo i beidio â chanslo'r drwydded; neu
(ii)bod y drwydded yn dod i ben.
(3) Caiff yr Asiantaeth, os yw'n credu mai heb ataliad na fydd risg niwed i iechyd, dynnu'r hysbysiad sy'n atal y drwydded yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 Rhn. 5 para. 4 mewn grym ar 31.7.2009, gweler rhl. 1(1)