Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dyma'r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 17 Gorffennaf 2009 y darpariaethau hynny yn y Mesur a bennir yn erthygl 2 o'r Gorchymyn.