Search Legislation

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3165 (Cy.276)) (“y prif Reoliadau”) a wrth wneud hynny yn gweithredu Cyfarwyddeb 2009/54/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddatblygu a marchnata dŵr mwynol naturiol (Ail-lunio) (Rhif OJ L164, 26.6.2009, t.45).

2.  Mae'r Rheoliadau yn diwygio'r prif Reoliadau drwy—

(a)tynnu'r diffiniad o “Cyfarwyddeb 80/777” o reoliad 2(1) (dehongli), mewnosod diffiniad o “Cyfarwyddeb 2009/54” a rhoi diffiniad newydd o “ddŵr mwynol naturiol” yn lle'r hen un (rheoliad 3);

(b)rhoi cyfeiriadau at “Cyfarwyddeb 2009/54” yn lle'r cyfeiriadau at “Cyfarwyddeb 80/777” sy'n ymddangos mewn darpariaethau penodol (rheoliad 4);

(c)gwneud mân newidiadau i eiriad rheoliad 8(1)(c) ac (f) a (4), rheoliad 9(2)(c) a pharagraff 4 o Atodlen 4, i adlewyrchu mân wahaniaethau rhwng darpariaethau Cyfarwyddeb 2009/54 (y mae'r darpariaethau domestig hynny bellach yn eu gweithredu) a'r darpariaethau cyfatebol yng Nghyfarwyddeb 80/777 (yr oedd y darpariaethau domestig hynny gynt yn eu gweithredu) (rheoliadau 5, 6 a 7 (1));

(ch)rhoi, yn lle'r ddarpariaeth sy'n caniatáu cludo dŵr ffynnon o'r ffynnon i'r man potelu mewn cynwysyddion nas bwriedir ar gyfer eu dosbarthu i'r defnyddiwr olaf os cludwyd dŵr o'r ffynnon yn y dull hwnnw cyn 23 Tachwedd 1996, ddarpariaeth sy'n newid y dyddiad hwnnw i 13 Rhagfyr 1996 (rheoliad 7(2));

(d)rhoi, yn lle'r ddarpariaeth sy'n pennu bod rhaid i ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon fod yn rhydd o organebau penodedig, ddarpariaeth sy'n gosod bod rhaid i'r cyfryw ddŵr fod yn rhydd o'r cyfryw organebau yn y tarddle ac wrth ei farchnata (rheoliad 7(3)); ac

(dd)gwneud mân gywiriadau penodol i fersiwn Gymraeg y prif Reoliadau (rheoliad 8).

3.  Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources