(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i dai amlfeddiannaeth (fel y'u diffinnir yn adrannau 254 i 259 o Ddeddf Tai 2004) yng Nghymru.

O dan Reoliadau Rheoli TaiAmlfeddiannaeth (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”), sy'n gymwys o ran bob tŷ amlfeddiannaeth ac eithrio'r rheini y mae adran 257 (tai amlfeddiannaeth: blociau o fflatiau penodol a droswyd) o Ddeddf Tai 2004 yn gymwys, mae'n ofynnol i reolwr tŷ amlfeddiannaeth gyflawni dyletswyddau penodol o ran rheoli'r tŷ amlfeddiannaeth. Un o'r dyletswyddau hynny yw rhoi i'r awdurdod tai lleol o fewn 7 o ddiwrnodauar 153 l derbyn cais ysgrifenedig oddi wrth yr awdurdod dystysgrif brawf cyfarpar nwy ddiweddaraf y mae'r rheolwr wedi ei chael ynghylchrhoi unrhywgyfarparnwy drwy brawf gan “beiriannydd cydnabyddedig” yn y tŷ amlfeddiannaeth. O dan Reoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau2007”)mae'r un ddyletswydd yn gymwys o ran rheolwyr tai amlfeddiannaeth y mae adran 257 o Ddeddf Tai 2004 yn gymwysiddynt.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli'r diffiniad o “peiriannydd cydnabyddedig” yn Rheoliadau 2006 a Rheoliadau 2007. Mae'r diffiniad newydd yn cyfeirio at beiriannydd a gymeradwywyd o dan reoliad 3 o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 1998.