xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3154 (Cy.282)) (“y prif Reoliadau”) sy'n gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli, a difa enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1) fel y'i diwygiwyd.

Diwygir testun Cymraeg y prif Reoliadau er mwyn: cynnwys cyfeiriad at “gyflenwr” (“supplier”) (rheoliad 15(1)(c)); rhoi yn lle'r gair “rheoliad” y gair “paragraff” (paragraff 5(6) o Atodlen 3) a rhoi yn lle'r llythyren “(d)” y llythyren “(ch)” (paragraff 3(2) o Atodlen 6).

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi ei baratoi.